Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Micah 4

4
PEN. IV.—
1A bydd yn y dyddiau ar ol hyn,#diweddaf. LXX.
Y bydd mynydd tŷ yr Arglwydd wedi ei sicrhau#yn amlwg, yn barod ar. LXX. ar ben y mynyddoedd;
A dyrchefir ef yn uwch na’r bryniau:
A phobloedd#a’r holl bobloedd. Syr. a ddylifant ato.
2A chenedloedd lawer a ânt,#frysiant. Vulg.
Ac a ddywedant,
Deuwch ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd,
Ac i dŷ Duw Jacob;
Ac efe a’n dysg#a dangosant i ni ei ffordd. LXX. ni yn#o’i, allan o’i. Hebr., Syr. am ei. Vulg. ei ffyrdd;
Ac ni a rodiwn yn ei lwybrau:
Canys o Sïon yr â cyfraith#addysg. allan;
A gair yr Arglwydd o Jerusalem.
3Ac efe a farna#ti a a ferni, a geryddi. Syr. rhwng pobloedd lawer;
Ac a argyhoedda genedloedd cryfion hyd yn mhell:
A churant eu cleddyfau yn sychau;#erydr. LXX. gwlltyrau. Syr.
A’u gwaewffyn yn bladuriau;#cyllyll tocio. crymanau. LXX. rhawiau. Vulg.
Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl:
Ac ni ddysgant ryfel mwyach.
4Ac eisteddant#arosant, gorphwysant. LXX. bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren,
Ac ni bydd a ddychryno:#a’u blina. Syr. a bair ddychryn.
Canys genau Arglwydd y lluoedd a lefarodd.#y pethau hyn. LXX.
5Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw:#ei ffordd, LXX.
A ninau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd.
6Yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd,
Y casglaf y gloff,#ysigedig. LXX a bellhauwyd. Syr.
Ac y cynullaf yr hon a yrwyd allan;#deflais allan. Vulg. y rhai a wasgarwyd. Syr.
A’r hon a ddrygais.#a fwriais ymaith. LXX a gystuddiais. Vulg.
7A gwnaf y gloff yn weddill;
A’r hon a symudwyd yn mhell#a fu mewn blinder. Vulg. yn genedl gref:
A’r Arglwydd a deyrnasa arnynt yn mynydd Sïon;
O yn awr hyd byth.
8A thithau twr Eder,#praidd. Hebr. frwnt dwr praidd, Oh ferch. LXX. tywyll dwr porfan merch. Syr. gymylog dwr praidd. Vulg.
Bryn merch Sïon,
Hyd ataf y daw,#dy amser a ddaeth a daeth llywodraethwr cyntefig breniniaeth merch Jerusalem. Syr.
Ac yr â yr arglwyddiaeth gyntefig:
Teyrnas i ferch Jerusalem.
9Yn awr, paham y gwaeddi waedd:#yr adnabyddaist adfyd. LXX. y gwnaethost ddrwg. Syr. y’th wesgir yn nghyd gan dristwch. Vulg.
Onid oes ynot frenin,#y br. nid yw ynot.
A ddarfu dy gynghorydd;
Canys gwewyr a’th gymerodd fel un yn esgor.
10Bydd mewn poen ac mewn gwewyr,#a gofala. Vulg. ferch Sïon,
Fel un yn esgor:
O herwydd yn awr yr êi di#ewch, thrigwch, ewch. y’ch gwar. Syr. allan o ddinas,
A thrigi yn y maes,
A thi a êi hyd Babel,
Yno y’th waredir;
Yno yr achub yr Arglwydd di;
O law dy elynion.
11Ac yn awr y casglwyd#cesglir. Syr. llawer o genedloedd i’th erbyn:
Y rhai a ddywedant, haloger hi;#halogir Sion. Syr. llawenhawn arni. LXX. llabyddiwn hi. Vulg.
Ac edryched ein llygaid ar Sïon.
12Ond ni wyddant#nid adwaenasant. LXX., Vulg. hwy feddyliau yr Arglwydd;
Ac ni ddeallant ei gynghor ef:
Canys casglodd hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu.
13Cyfod, a dyrna, ferch Sïon,
Canys dy gorn a osodaf yn haiarn,
A’th garnau a osodaf yn bres;
A thi a ddrylli#dreuli. LXX. faluri. Syr., Vulg. bobloedd lawer:
A chysegri#ddiofrydi. Syr. a leddi. Vulg. i’r Arglwydd eu helw hwynt;
A’n golud i Arglwydd yr holl ddaear,
14Yn awr yr ymgynulli ferch ysbeilgar;#yr argaeir merch mewn argae. LXX. y’th anrhaethir, ferch y lleidr. Vulg. yr ewch ymaith mewn ysbail, ferch yr ysbeiliau. Syr.
Gosododd warchae arnom:#rhai cedyrn a godasant i’n herbyn. Syr.
A’i wialen y tarawodd farnwr#lwythau. LXX. fugail. Syr. Israel,
Ar y gern.

Dewis Presennol:

Micah 4: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda