Amos 5
5
PEN. V.—
1Gwrandewch y gair hwn a godaf am danoch, galarnad, tŷ Israel.#ty Isr. a syrthiodd ac ni. gwyryf Isr. a daflwyd ar. LXX., Vulg.
2Gwryf Israel a syrthiodd;
Ni chyfyd mwy:
Hi a daflwyd ar ei thir,
Nid oes a’i cyfyd.
3Canys fel hyn#y pethau hyn. LXX., Vulg. y dywedodd yr Arglwydd Iôr;
Y ddinas yr hon a â allan yn fil a weddill gant:
A’r hon a â allan yn gant a weddill ddeg i dŷ Israel.
4Diau fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrth dŷ Israel:
Ceisiwch fi a byw fyddwch.
5Ac na cheisiwch Bethel;
Ac nac ewch i Gilgal;#i’r dreiglfa. Galgala., LXX., Vulg.
Ac na thramwywch i Beersheba:#budew y llw. LXX.
O herwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal;
A Bethel a fydd yn ddiddim.#fel pe heb fod. LXX, Syr. yn ddiddefnydd. Vulg.
6Ceisiwch yr Arglwydd a byw fyddwch:
Rhag iddo syrthio fel tân ar dŷ Joseph;#rhag y cyneua ty J. fel. LXX. fel na losgo fel tân dy. Syr. rhag y llosger ty J. fel tân. Vulg.
A difa o hono ac na byddo i Bethel#i dy Israel a’i diffoddo. LXX. a’i diffoddo.
7Y rhai a droant farn yn wermod:#chwerwderau. Syr. yr hwn a wna farn i’r uchelder (yn uchel), ac a osododd gyf. i’r ddaear. LXX.
Ac a daflasant gyfiawnder i’r ddaear.
8Gwneuthurwr Ceimah a Cesil,#yr hwn sydd yn gwneuthur ac yn ad-drefnu pob peth. LXX.
A’r hwn a dry dywyllwch dudew#cysgod angeu. Hebr. yn foreu;
Ac a dywylla ddydd yn nos:
Yr hwn a eilw ar ddyfroedd y môr,
Ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear,
Yr Arglwydd yw ei enw.
9Yr hwn a ddwg ddinystr#alluoga yr egwan yn erbyn y cryf. Syr. a rana ddrylliad ar. LXX. a wena wrth ddifrod ar y cryf. Vulg. ar gryfder:
Ac a wna i ddinystr ddyfod ar ymddiffynfa.
10Cas fu ganddynt yr hwn a geryddai#tlawd. Syr. yn y porth:
A ffiaidd ganddynt yr hwn a lefarai uniondeb.#a gair santaidd a ffieiddiasant. LXX.
11O herwydd hyny am i chwi sathru#guro. Syr. yspeilio. Vulg. ar dlawd,
A chymeryd o honoch doll o ŷd#a derbyn rhoddion dewisol ganddynt. LXX., Syr. ysglyfaeth ddewisol oddiarno. Vulg. ganddo;
Adeiladasoch dai o gerig nadd,#faen ysgwâr. Vulg.
Ond ni thrigwch ynddynt:
Planasoch winllanoedd hyfryd;
Ond nid yfwch eu gwin hwynt.
12Canys mi a adwaen eich holl anwireddau;
A’ch pechodau cryfion;#mawrion.
Y rhai a gystuddiwch wr uniawn,#gan sathru. LXX. yn gorthrymu, Syr. gelynion gwr uniawn, yn derbyn rhodd. Vulg.
Y rhai a gymerwch iawn;#gwobr. Syr.
A thlodion a droir#a droant: ac yn gwasgu tl. yn y. Vulg. heibio yn y porth.
13Am hyny y synwyrol a fydd dystaw yn yr amser hwn:
Canys amser drwg#blin. drygau. LXX. ydyw.
14Ceisiwch ddaioni ac nid drygioni,
Fel y byddoch byw:
Ac felly y bydd yr Arglwydd Duw y lluoedd gyda chwi,
Fel y dywedasoch.#fel y dywedasoch, casasom y drwg a charasom y. LXX.
15Casewch ddrygioni a cherwch ddaioni;
A gosodwch farn yn y porth:
Fe allai y tosturia yr Arglwydd, Duw y lluoedd, wrth weddill Joseph.
16Am hyny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Duw y lluoedd,#galluog. Syr. yr Iôr;
Yn mhob heol y bydd cwynfan;
Ac yn mhob ffordd y dywedir Och, och:
A gelwir arddwr i alaru;
A chwynfan a fydd i’r#gan. neb a fedront alarnad.
17Ac yn mhob gwinllan y bydd cwynfan:
Canys tramwyaf trwy dy ganol di,
Medd yr Arglwydd.
18Gwae y rhai a ddymunant ddydd yr Arglwydd:
Beth fydd hwnw#at beth y mae hyn i chwi—genych. at beth y dymunwch hwn i chwi. Vulg. i chwi,
Dydd yr Arglwydd,
Efe a fydd yn dywyllwch ac nid yn oleuni.
19Megys pe ffoai gŵr rhag y llew;
A chyfarfod o’r arth âg ef:
A myned#rhuthro. LXX. i’r tŷ,
A phwyso o’i law ar y mur;
A chnoi o’r sarph ef.
20Onid tywyllwch a fydd dydd yr Arglwydd ac nid goleuni:
A magddu ac heb lewyrch iddo.#ynddo. Vulg.
21Casheais, ffieiddiais eich gwyliau:
Ac nid ymhyfrydaf#nid aroglaf aberthau yn. LXX. ni chymeraf arogl eich. Vulg. yn eich cymanfaoedd.
22Canys os offrymwch i mi aberthau llosg a’ch offrymau bwyd,
Ni byddaf foddlawn:#nis derbyniaf. Vulg.
Ac ar eich pasgedigion yn ebyrth diolch nid edrychaf.
23Symud oddiwrthyf drwst dy ganiadau:
Ac ar beroriaeth dy nablau#delynau, organau. LXX. ni wrandawaf.
24A threigled#a threiglir. LXX. dadguddir. Vulg. barnedigaeth fel y dyfroedd:
A chyfiawnder fel llifeiriant cryf.#dibaid, anrhydiadwy. LXX.
25A offrymasoch chwi aberthau ac offrymau bwyd i mi,
Yn y diffaethwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel.
26Ond dygasoch babell eich Moloch;#brenin. Malcom., Syr. i’ch Moloch. Vulg.
A sefyllfan#llusg, càr. A Sadwrn eich delw. Syr. eich delwau:#delw eich eilunod. Vulg.
Seren eich duw;#seren yn dduw i chwi. a seren eich duw chwi Rhaiphan, eu lluniau hwynt y rhai a. LXX: seren a wnaethoch yn dduw i chwi. Syr.
Yr hwn a wnaethoch i chwi.
27A mi a’ch caethgludaf chwithau y tu hwnt i Damascus,#yn mhell o D. yn mhellach na D. Syr.
Medd yr Arglwydd:
Duw y lluoedd#ollalluog. LXX. galluog. Syr. yw ei enw.
Dewis Presennol:
Amos 5: PBJD
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.