Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 4

4
PEN. IV.—
1Gwrandewch y gair hwn gwartheg Bashan,#breision. Vulg.
Y rhai sydd yn mynydd Samaria;
Y rhai sydd yn gorthrymu tlodion;
Y rhai sydd yn dryllio rhai anghenog:
Y rhai a ddywedant wrth eu harglwyddi, Rho i ni i yfed.#rhowch i ni fel yr yfom. LXX. dygwch ac yfwn. Vulg.
2Tyngodd yr Arglwydd Iôr trwy ei santeiddrwydd;
Wele ddyddiau yn dyfod arnoch
Y dwg efe chwi ymaith â bachau;#a hwy a’ch codant a pholion. Vulg.
A’ch hiliogaeth#gweddill. Syr. â bachau#tryferi, offer hely. Syr. a heintiau tanllyd a daflant y rhai sydd gyda chwi i lestri llosg. LXX. mewn crochanau berw. Vulg. pysgota.
3A chwi a ewch allan#a chwi a ddygir ymaith yn noethion. LXX. i adwyau bob un ar ei chyfer:
A chwi a deflir i Armenia#Harmanah, i Harmon, i’r mynydd Rheman. LXX. a theflir hwy i fynydd Armeni. Syr. i Armon. Vulg. medd yr Arglwydd.
4Ewch i Bethel a throseddwch;
I Gilgal a chwanegwch droseddu;
A dygwch eich aberthau yn#at, i’r. y boreu;
Eich degymau bob tri dyddiau.#at, am dri thymorau.
5A chan losgi toes lefeinllyd#a gwybuasant, darllenant hwnt i’r ddeddf. LXX. aberthwch foliant o does lefeinllyd. Syr., Vulg. yn foliant;
Cyhoeddwch offrymau#addunwch add., a thelwch. Syr. gwirfodd, hysbyswch:
Canys felly yr hoffwch, meibion Israel;#hyn a garodd meibion. LXX.
Medd yr Arglwydd.
6A hefyd rhoddais#rhoddaf i. LXX. i chwi lendid#rhinc. LXX. syrthni. Vulg. danedd yn eich holl ddinas-oedd;
Ac eisiau bara yn eich holl drigfanau:
Ac ni ddychwelasoch ataf Fi, Medd yr Arglwydd.
7A myfi hefyd a atteliais y gwlaw rhagoch;
Pan oedd eto dri misoedd#dair lloer. Syr. hyd y cynhauaf;
A pherais wlawio ar un ddinas;
Ac ar ddinas arall ni pherais wlawio:#nis gwlawiaf. LXX.
Un rhandir a gaffai wlaw;
A’r rhandir yr hon ni wlawiai arni a wywai.
8A dinasoedd dwy a thair,
A wibiasant#ymgasglai dwy. i ddinas arall i yfed dwfr;
Ac nis diwellid hwynt:
Ac ni ddychwelasoch ataf Fi,
Medd yr Arglwydd.
9Tarewais chwi â phoethwynt ac â malldod;#â gwres, ac â llosgfa, ac â chenllysg. Syr.
Amledd#amlhewch eich, a’ch olewydd a ysai y. LXX. eich gerddi a’ch gwinllanoedd a’ch ffigyswydd a’ch olewydd a ysai y locust:
Ac ni throisoch#ni throisoch felly na chwaith. LXX. ataf Fi,
Medd yr Arglwydd.
10Anfonais haint#angeu. LXX., Syr., Vulg. yn eich mysg fel y bu#yn ffordd yr. Hebr. yn yr Aipht;
Eich gwyr ieuainc a leddais â’r cleddyf;
Gyda dwyn ohonof ymaith eich meirch:
A chodais ddrewdod eich gwersylloedd i’ch ffroenau;#a dygais i fyny trwy dân y gwersylloedd yn eich dig. LXX.
Ac ni#ac felly na chwaith ni. LXX. throisoch ataf Fi,
Medd yr Arglwydd.
11Mi a ddymchwelais yn eich plith,#chwi. LXX., Vulg.
Fel yr ymchwelodd Duw Sodom a Gomorah;
A buoch fel pentewyn wedi ei achub o’r llosgfa;
Ac ni throisoch ataf Fi, Medd yr Arglwydd.
12Gan hyny fel hyn y gwnaf i ti, Israel:
O herwydd mai hyn#o’r diwedd am mai. Syr. wedi y gwnelwyf hyn. Vulg. a wnaf i ti;
Bydd barod Israel i gyfarfod#i alw ar dy. LXX. a’th Dduw.
13Canys wele lluniwr y mynyddoedd#a wna y daran yn gryf. LXX. a chreawdwr gwynt,#y gwynt, y mynyddoedd. Syr.
A’r hwn a fynega i ddyn beth yw ei feddwl;#i ddynion ei eneiniog. LXX. ei falchder, ogoniant. Syr. ei ymadrodd, Vulg.
Yn gwneuthur gwawr yn dywyllwch;#gwawr a thywyllni. LXX. niwl, cwmwl boreu. Vulg.
Ac a gerdd ar uchelderau daear:
Yr Arglwydd, Duw y lluoedd#y Duw hollalluog. LXX. yw ei enw.

Dewis Presennol:

Amos 4: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda