Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 9

9
1 Duw yn amddiffyn ei eglwys. 9 Annog Seion i lawenychu am ddyfodiad Crist, a’i heddychol frenhiniaeth. 12 Duw yn addo buddugoliaeth ac amddiffyn.
1Baich gair yr Arglwydd yn nhir Hadrach, a #Amos 1:3Damascus fydd ei orffwysfa ef: pan fyddo llygaid dyn ar yr Arglwydd, fel yr eiddo holl lwythau Israel. 2A Hamath hefyd a derfyna wrthi; Tyrus a #Obad 20Sidon hefyd, er ei bod #Esec 28:3, &cyn ddoeth iawn. 3A Thyrus a adeiladodd iddi ei hun amddiffynfa, ac #Job 27:16a bentyrrodd arian fel llwch, ac aur coeth fel tom yr heolydd. 4#Esa 23:1Wele, yr Arglwydd a’i bwrw hi allan, ac a dery ei nerth hi yn y môr; a hi a ysir â thân. 5#Seff 2:4Ascalon a’i gwêl, ac a ofna; a Gasa, ac a ymofidia yn ddirfawr; Ecron hefyd, am ei chywilyddio o’i gobaith; difethir hefyd y brenin allan o Gasa, ac Ascalon ni chyfanheddir. 6#9:6 Heb. Mab ordderch.Estron hefyd a drig yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiaid. 7A mi a gymeraf ymaith ei waed o’i enau, a’i ffieidd‐dra oddi rhwng ei ddannedd: ac efe a weddillir i’n Duw ni, fel y byddo megis pennaeth yn Jwda, ac Ecron megis Jebusiad. 8A #Pen 2:5gwersyllaf o amgylch fy nhŷ rhag y llu, rhag a êl heibio, a rhag a ddychwelo; fel nad elo gorthrymwr trwyddynt mwyach: canys yn awr gwelais â’m llygaid.
9 # Esa 62:11 ; Pen 2:10; Mat 21:5; Ioan 12:15Bydd lawen iawn, ti ferch Seion; a chrechwena, ha ferch Jerwsalem: wele dy frenin yn dyfod atat: cyfiawn #9:9 Neu, a’i achubydd ei hun yw efe.ac achubydd yw efe; y mae efe yn llariaidd, ac yn marchogaeth ar asyn, ac ar ebol llwdn asen. 10#Hos 1:7; 2:18; Micha 5:10; Hag 2:22Torraf hefyd y cerbyd oddi wrth Effraim, a’r march oddi wrth Jerwsalem, a’r bwa rhyfel a dorrir: ac efe a lefara heddwch i’r cenhedloedd: a’i lywodraeth fydd #Salm 72:8o fôr hyd fôr, ac o’r afon hyd eithafoedd y ddaear. 11A thithau, #9:11 Neu, yr hon y mae ei chyfamod trwy waed, gollyngais, &c Exod 24:8; Heb 13:20trwy waed dy amod y gollyngais dy #Esa 61:1garcharorion o’r pydew heb ddwfr ynddo.
12Trowch i’r amddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddiw yr ydwyf yn dangos #Esa 61:7y talaf i ti yn ddauddyblyg: 13Pan anelwyf Jwda i mi, ac y llanwyf y bwa ag Effraim, ac y cyfodwyf dy feibion di, Seion, yn erbyn dy feibion di, Groeg, ac y’th wnelwyf fel cleddyf gŵr grymus: 14A’r Arglwydd a welir trostynt, a’i saeth ef a â allan fel mellten: a’r Arglwydd Dduw a gân ag utgorn, ac a gerdd #Esa 21:1â chorwyntoedd y deau. 15Arglwydd y lluoedd a’u hamddiffyn hwynt: a hwy a ysant, ac a ddarostyngant #9:15 Neu, â cherrig.gerrig y dafl; yfant, a therfysgant megis mewn gwin, a #9:15 Neu, llanwant y meiliau, a chonglau yr allor hefyd.llenwir hwynt fel meiliau, ac fel conglau yr allor. 16A’r Arglwydd eu Duw a’u gwared hwynt y dydd hwnnw fel praidd ei bobl: canys #Esa 62:3 fel meini coron y byddant, #Esa 11:12wedi eu dyrchafu yn fanerau ar ei dir ef. 17Canys pa faint yw ei ddaioni ef, a pha faint ei degwch ef! ŷd a #9:17 Neu, a wnâi wŷr ieuainc dyfu, neu, lefaru.lawenycha y gwŷr ieuainc, a gwin y gwyryfon.

Dewis Presennol:

Sechareia 9: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda