Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sechareia 8

8
1 Adnewyddu Jerusalem. 9 Eu cysuro hwy i adeiladu, trwy fod ffafr Duw tuag atynt. 16 Gweithredoedd da y mae Duw yn eu gofyn ganddynt. 18 Addo llawenydd a rhyddhad.
1Drachefn y daeth gair Arglwydd y lluoedd ataf, gan ddywedyd, 2Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; #Pen 1:14Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti. 3Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Seion, a thrigaf yng nghanol Jerwsalem; a Jerwsalem #Esa 1:21, 26a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd Arglwydd y lluoedd, Y mynydd sanctaidd. 4Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; #Edrych 1 Sam 2:31; Galar 2:20, &c; 5:11–14Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem, a phob gŵr â’i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau. 5A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi. 6Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Os #8:6 Neu, rhyfedd.anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, #Gen 18:14; Luc 1:37; 18:27; Rhuf 4:21ai #8:6 Neu, rhyfedd.anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd Arglwydd y lluoedd. 7Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir #8:7 Edrych Salm 50:1; 113:3; Mal 1:11machludiad haul. 8A mi a’u dygaf hwynt, fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn Dduw mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.
9Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; #Hag 2:4Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o #Esra 5:1, 2enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd, fel yr adeiledid y deml. 10Canys cyn y dyddiau hyn #Hag 1:6, 10; 2:16#8:10 Neu, y cyflog hwn i ddyn a aeth yn ddiddim, ac nid oedd llog am, &cnid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i’r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog. 11Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd Arglwydd y lluoedd. 12Canys bydd #Hos 2:21, 22; Joel 2:22yr had #8:12 Heb. yn heddwch.yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a’r ddaear a rydd ei chynnyrch, a’r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn. 13A bydd, mai megis y buoch chwi, tŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y’ch gwaredaf chwi, a #Ruth 4:11, 12; Seff 3:20byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo. 14Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y’m digiodd eich tadau, medd Arglwydd y lluoedd, ac nid edifarheais; 15Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dŷ Jwda: nac ofnwch.
16Dyma y pethau a wnewch chwi; #Eff 4:25Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn #8:16 Heb. a gwirionedd tangnefedd.gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth; 17#Pen 7:10Ac na fwriedwch ddrwg neb i’w gilydd yn eich calonnau; ac #Pen 5:3, 4na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr Arglwydd.
18A gair Arglwydd y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 19Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Ympryd #Jer 52:6, 7y pedwerydd mis, ac ympryd #Jer 52:12, 13y pumed, ac ympryd #Jer 41:1, 2y seithfed, ac ympryd #Jer 52:4y degfed, a fydd i dŷ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn #8:19 Heb. amserau gosodedig.uchel wyliau #8:19 Neu, hyfryd.daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch. 20Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer: 21Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall, gan ddywedyd, #Esa 2:3; Micha 4:1, 2Awn gan fyned i weddïo gerbron yr Arglwydd, ac i geisio Arglwydd y lluoedd: minnau a af hefyd. 22Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerwsalem, ac i #8:22 Heb. ymbil ag wyneb yr Arglwydd.weddïo gerbron yr Arglwydd. 23Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gŵr o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom #1 Cor 14:25 fod Duw gyda chwi.

Dewis Presennol:

Sechareia 8: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda