Rhufeiniaid 2
2
A.D. 60 —
1 Na all y rhai sydd yn pechu, er eu bod yn condemnio pechod mewn eraill, eu hesgusodi eu hunain; 6 ac mai anoddach o lawer yw iddynt ddianc rhag barn Duw, 9 pa un bynnag fônt, ai Iddewon neu Genhedloedd. 14 Nas gall y Cenhedloedd ddianc, 17 na’r Iddewon chwaith; 25 ac na wna eu henwaediad lesâd iddynt, oni chadwant y ddeddf.
1Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: #2 Sam 12:5; Mat 7:2canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. 2Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. 3Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? 4Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, #2 Pedr 3:15a’i ymaros, #Esa 30:18heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? 5Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt #Iago 5:3yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, 6#Job 34:11; Salm 62:12; Jer 17:10; 32:19; Mat 16:27; Pen 14:12; Dat 22:12Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: 7Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: 8Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac #2 Thess 1:8anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; 9Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew #Amos 3:2; Luc 12:47, 48; 1 Pedr 4:17yn gyntaf, a’r #2:9 Cenedl‐ddyn.Groegwr hefyd: 10Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r #2:10 Cenedl‐ddyn.Groegwr hefyd. 11Canys #Deut 10:17nid oes derbyn wyneb gerbron Duw. 12Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf; 13(Canys #Mat 7:21; Iago 1:22, 23, 25nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir. 14Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain: 15Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a’u meddyliau #2:15 rhyngddynt a’u gilydd yn cyhuddo, neu, yn esgusodi.yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;) 16#Mat 25:31; 1 Cor 4:5Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, #Ioan 5:22; Act 17:31trwy Iesu Grist. 17Wele, Iddew y’th elwir di, ac #Micha 3:11; Pen 9:4yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw; 18Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac #Phil 1:10yn #2:18 profi pethau a gwahaniaeth rhyngddynt.darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf; 19Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch, 20Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt #Pen 6:17; 2 Tim 1:13; 3:5ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf. 21#Salm 50:16, &cTydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di? 22Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di? 23Yr hwn wyt #Ad. 17yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw? 24Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae #2 Sam 12:14; Esa 52:5; Esec 36:20, 23yn ysgrifenedig. 25Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 26Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf? 28Canys #Ioan 8:39; Pen 9:6, 7; Gal 6:15; Dat 2:9nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: 29Eithr #1 Pedr 3:4yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac #Col 2:11; Phil 3:3enwaediad y galon sydd #Pen 7:6; 2 Cor 3:6yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; #1 Cor 4:5; 2 Cor 10:18; 1 Thess 2:4yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
Dewis Presennol:
Rhufeiniaid 2: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society