Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Numeri 22

22
1 Cenhadon cyntaf Balac yn cael gwaharddiad gan Balaam. 15 Ei ail‐genhadon ef yn cael ganddo ddyfod. 22 Angel a’i lladdasai ef, oni buasai i’w asen ei waredu ef. 36 Balac yn ei groesawu ef.
1 # Pen 33:48 A meibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho.
2A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid. 3As #Exod 15:15ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel. 4A dywedodd Moab wrth #Pen 31:8; Jos 13:21henuriaid Midian, Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ych wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw. 5#Deut 23:4; Jos 13:22; 24:9; Neh 13:1, 2; Micha 6:5; 2 Pedr 2:15; Jwdas 11; Dat 2:14Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i #Edrych Pen 23:7; Deut 23:4Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele bobl a ddaeth allan o’r Aifft: wele, y maent yn cuddio #22:5 Heb. llygad.wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i. 6Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech. 7A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac. 8A dywedodd yntau wrthynt, Lletywch yma heno; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam. 9A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd, Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi? 10A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenin Moab, a ddanfonodd ataf, gan ddywedyd, 11Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aifft, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan. 12A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyda hwynt; na felltithia’r bobl: canys bendigedig ydynt. 13A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi. 14A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.
15A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn. 16A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf: 17Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn. 18A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, #Pen 24:13Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, #1 Bren 22:14; 2 Cron 18:13ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr. 19Ond, atolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg. 20A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny #ad. 35; Pen 23:12, 26y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di. 21Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyda thywysogion Moab.
22A dig Duw a enynnodd, am iddo ef fyned: ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i’w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a’i ddau lanc gydag ef. 23#Edrych 2 Bren 6:17; Dan 10:7; Act 22:9; 2 Pedr 2:16; Jwdas 11A’r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o’r ffordd, ac a aeth i’r maes: a thrawodd Balaam yr asen, i’w throi i’r ffordd. 24Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o’r ddeutu. 25Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a’i trawodd hi eilwaith. 26Ac angel yr Arglwydd a aeth ymhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tua’r tu deau na’r tu aswy. 27A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd, ac a orweddodd dan Balaam: yna yr enynnodd dig Balaam, ac efe a drawodd yr asen â ffon. 28A’r Arglwydd a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wrth Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn? 29A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siomi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y’th laddwn. 30A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan #22:30 Neu, ydwyt, hyd &c ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Naddo. 31A’r Arglwydd #Edrych Gen 21:19; Luc 24:16, 31a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymodd ar ei wyneb. 32A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti; canys cyfeiliornus yw’r ffordd hon yn fy ngolwg. 33A’r asen a’m gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, ac a’i gadawswn hi yn fyw. 34A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref. 35A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, Dos gyda’r dynion; a’r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyda thywysogion Balac.
36A chlybu Balac ddyfod Balaam: ac efe a aeth i’w gyfarfod ef i ddinas Moab; yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gwr eithaf y terfyn. 37A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais atat i’th gyrchu? paham na ddeuit ti ataf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus? 38A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum atat: gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo Duw yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi. 39A Balaam a aeth gyda Balac; a hwy a ddaethant i #22:39 Neu, Heolydd.Gaer‐husoth. 40A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i’r tywysogion oedd gydag ef. 41A’r bore Balac a gymerodd Balaam, ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl.

Dewis Presennol:

Numeri 22: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda