1
Numeri 22:28
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
A’r ARGLWYDD a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wrth Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn?
Cymharu
Archwiliwch Numeri 22:28
2
Numeri 22:31
A’r ARGLWYDD a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr ARGLWYDD yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymodd ar ei wyneb.
Archwiliwch Numeri 22:31
3
Numeri 22:32
A dywedodd angel yr ARGLWYDD wrtho, Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti; canys cyfeiliornus yw’r ffordd hon yn fy ngolwg.
Archwiliwch Numeri 22:32
4
Numeri 22:30
A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Naddo.
Archwiliwch Numeri 22:30
5
Numeri 22:29
A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siomi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y’th laddwn.
Archwiliwch Numeri 22:29
6
Numeri 22:27
A gwelodd yr asen angel yr ARGLWYDD, ac a orweddodd dan Balaam: yna yr enynnodd dig Balaam, ac efe a drawodd yr asen â ffon.
Archwiliwch Numeri 22:27
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos