Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nahum 2

2
Ofnadwy a buddugol luoedd Duw yn erbyn Ninefe.
1Daeth y #2:1 Neu, drylliwr.chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: #Jer 51:11, 12cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr. 2#Esa 10:12Canys dychwelodd yr Arglwydd #2:2 Neu, falchder.ardderchowgrwydd Jacob, fel #2:2 Neu, â balchder.ardderchowgrwydd Israel: canys #Salm 80:12; Hos 10:1y dihysbyddwyr a’u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd. 3Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda #2:3 Heb. thân lampau.lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a’r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol. 4Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant. 5Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a’r #2:5 Heb. gorchudd, neu, gorchuddiwr.amddiffyn a baratoir. 6Pyrth y dwfr a agorir, a’r palas a #2:6 Neu, dawdd.ymddetyd. 7#2:7 Neu, A’r hyn a sefydlwyd, neu, safwyd, a chaethgludir hi, &cA Hussab a #2:7 Neu, ddatguddir.gaethgludir, dygir hi i fyny, a’i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau. 8A Ninefe sydd #2:8 Neu, er y dyddiau y bu.er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd #2:8 Neu, a’i dychwelo.a edrycho yn ôl. 9Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; #2:9 Neu, a’i hanfeidrol heiniar.canys nid oes diben ar yr ystôr, a’r gogoniant o bob dodrefn dymunol. 10Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a’r #Esa 13:7, 8galon yn toddi, a’r #Dan 5:6gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, #Joel 2:6 a’u hwynebau oll a gasglant barddu. 11Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a’r cenau llew, ac nid oedd a’u tarfai? 12Y llew a ysglyfaethodd ddigon i’w genawon, ac a dagodd i’w lewesau, ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a’i loches ag ysbail. 13Wele fi yn dy erbyn, medd Arglwydd y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a’r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o’r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.

Dewis Presennol:

Nahum 2: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda