Nahum 1
1
Mawredd Duw yn ei ddaioni tuag at ei bobl, a’i doster yn erbyn ei elynion.
1Baich #Seff 2:13Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad. 2#1:2 Neu, Yr Arglwydd sydd Dduw eiddigus, a dialydd. Duw sydd #Exod 20:5eiddigus, #Salm 94:1a’r Arglwydd sydd yn dial; yr Arglwydd sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr Arglwydd ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i’w elynion. 3#Exod 34:6, 7Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: #Salm 18:7, &c; Hab 3:5, 11, 12yr Arglwydd sydd a’i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a’r cymylau yw llwch ei draed ef. 4#Esa 50:2Efe a gerydda y môr, ac a’i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Charmel, a llesgaodd blodeuyn Libanus. 5#Salm 97:5Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a’r bryniau a doddant, a’r ddaear a lysg gan ei olwg, a’r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo. 6Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a’r creigiau a fwrir i lawr ganddo. 7Daionus yw yr Arglwydd, #1:7 Neu, cadernid.amddiffynfa yn nydd blinder; ac #Salm 1:6efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo. 8A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef. 9Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith. 10Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo. 11Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd: cynghorwr #1:11 Heb. Belial.drygionus. 12Fel hyn y dywed yr Arglwydd, #1:12 Neu, Pe buasent heddychol, felly y buasent aml, ac felly y cneifiasid hwy, ac efe a aethai heibio.Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y #1:12 Heb. cneifir hwynt pan elo, &ctorrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni’th flinaf mwyach. 13Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau. 14Yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd o’th blegid, na heuer o’th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a’r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt. 15#Esa 52:7; Rhuf 10:15Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau: canys nid #1:15 Heb. â Belial.â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith.
Dewis Presennol:
Nahum 1: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society