Mathew 9
9
A.D. 31. —
2 Crist yn iacháu un claf o’r parlys, 9 yn galw Mathew o’r dollfa, 10 yn bwyta gyda phublicanod a phechaduriaid, 14 yn amddiffyn ei ddisgyblion am nad ymprydient, 20 yn iacháu y diferlif gwaed, 23 yn cyfodi merch Jairus o farw, 27 yn rhoddi eu golwg i ddau ddyn dall, 32 yn iacháu mudan cythreulig, 36 ac yn tosturio wrth y dyrfa.
1Ac efe a aeth i mewn i’r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i’w ddinas ei hun. 2#Marc 2:3; Luc 5:18Ac wele, hwy a ddygasant ato ŵr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a’r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, cymer gysur; maddeuwyd i ti dy bechodau. 3Ac wele, rhai o’r ysgrifenyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, Y mae hwn yn cablu. 4A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Paham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? 5Canys pa un hawsaf ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? 6Eithr fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o’r parlys,) Cyfod, cymer dy wely i fyny, a dos i’th dŷ. 7Ac efe a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun. 8A’r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesai gyfryw awdurdod i ddynion.
9 #
Marc 2:14; Luc 5:27 Ac fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, efe a ganfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Mathew, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gyfododd, ac a’i canlynodd ef.
10A bu, ac efe yn eistedd i fwyta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phechaduriaid a ddaethant ac a eisteddasant gyda’r Iesu a’i ddisgyblion. 11A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y bwyty eich Athro chwi gyda’r publicanod a’r pechaduriaid? 12A phan glybu’r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai cleifion. 13Ond ewch, a dysgwch pa beth yw hyn, #Hos 6:6; Micha 6:6, 7, 8; Pen 12:7Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, #1 Tim 1:15ond pechaduriaid, i edifeirwch.
14Yna y daeth disgyblion Ioan ato, gan ddywedyd, #Marc 2:18; Luc 5:33Paham yr ydym ni a’r Phariseaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 15A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, A all #Ioan 3:29plant yr ystafell briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodfab oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant. 16Hefyd, ni ddyd neb lain o frethyn newydd at hen ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a’r rhwyg a wneir yn waeth. 17Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hen: os amgen, y costrelau a dyr, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac felly y cedwir y ddau.
18 #
Marc 5:22; Luc 8:41 Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon; eithr tyred, a gosod dy law arni, a byw fydd hi. 19A’r Iesu a gyfododd, ac a’i canlynodd ef, a’i ddisgyblion.
20(#Marc 5:25; Luc 8:43Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o’r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef: 21Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â’i wisg ef, iach fyddaf. 22Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; #Luc 7:50; 8:48; 17:19; 18:42dy ffydd a’th iachaodd. A’r wraig a iachawyd o’r awr honno.) 23A phan ddaeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, a gweled #Edrych 2 Cron 35:25y cerddorion a’r dyrfa yn terfysgu, 24Efe a ddywedodd wrthynt, #Act 20:10Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a’i gwatwarasant ef. 25Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a’r llances a gyfododd. 26A’r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.
27A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a’i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym. 28Ac wedi iddo ddyfod i’r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd. 29Yna y cyffyrddodd efe â’u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi. 30A’u llygaid a agorwyd: a’r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, #Pen 8:4; 12:16; 17:9; Luc 5:14Gwelwch nas gwypo neb. 31#Marc 7:36Ond wedi iddynt ymado, hwy a’i clodforasant ef trwy’r holl wlad honno.
32 # Edrych Pen
12:22
; Luc 11:14Ac a hwy yn myned allan, wele, rhai a ddygasant ato ddyn mud, cythreulig. 33Ac wedi bwrw y cythraul allan, llefarodd y mudan: a’r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel. 34Ond y Phariseaid a ddywedasant, #Pen 12:24; Marc 3:22; Luc 11:15Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae ef yn bwrw allan gythreuliaid. 35#Marc 6:6; Luc 13:22A’r Iesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a’r trefydd, #Pen 4:23gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu efengyl y deyrnas, a iacháu pob clefyd a phob afiechyd ymhlith y bobl.
36A #Marc 6:34phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bod wedi blino, a’u gwasgaru, fel #Num 27:17; Sech 10:2defaid heb ganddynt fugail. 37Yna y dywedodd efe wrth ei ddisgyblion, #Luc 10:2; Ioan 4:35Y cynhaeaf yn ddiau sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: 38#2 Thess 3:1Am hynny atolygwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.
Dewis Presennol:
Mathew 9: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society