Mathew 10
10
A.D. 31. —
1 Crist yn anfon ei ddeuddeg apostol, gan roddi gallu iddynt i wneuthur rhyfeddodau: 5 yn rhoddi gorchymyn iddynt, ac yn eu dysgu, 16 yn eu cysuro yn erbyn erlidiau, 40 ac yn addo bendith i’r rhai a’u derbynio hwynt.
1Ac #Marc 3:14wedi galw ei ddeuddeg disgybl ato, efe a roddes iddynt awdurdod #10:1 ar. yn erbyn ysbrydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iacháu pob clefyd a phob afiechyd. 2Ac enwau’r deuddeg apostolion yw’r rhai hyn: Y cyntaf, Simon, #Ioan 1:42yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago mab Sebedeus, ac Ioan ei frawd; 3Philip, a Bartholomeus; Thomas, a Mathew y publican; Iago mab Alffeus, a Lebeus, yr hwn a gyfenwid Thadeus; 4Simon y Canaanead, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. 5Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas #2 Bren 17:24; Ioan 4:9, 20y Samariaid nac ewch i mewn: 6Eithr #Pen 15:24; Act 13:46ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. 7#Luc 9:2Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod #Pen 3:2; 4:17|MAT 4:17; Luc 10:9teyrnas nefoedd yn nesáu. 8Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch #Act 8:18, 20yn rhad, rhoddwch yn rhad. 9#1 Cor 9:7; Marc 6:8; Luc 9:3; 10:4; 22:35Na feddwch aur, nac arian, nac #Marc 6:8efydd i’ch pyrsau; 10Nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: #Luc 10:7; 1 Cor 9:7; 1 Tim 5:18canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. 11#Luc 10:8Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. 12A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. 13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14#Marc 6:11; Luc 9:5; 10:10, 11A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, #Neh 5:13; Act 13:51; 18:6ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15Yn wir meddaf i chwi, #Pen 11:22, 24Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.
16Wele, #Luc 10:3yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; #Rhuf 16:19byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. 17Eithr ymogelwch rhag dynion; canys #Pen 24:9; Marc 13:9; Luc 21:12hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac #Act 5:40a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. 18A #Act 12:1; 25:23; 2 Tim 4:16chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19#Marc 13:11Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys #Exod 4:12rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. 20Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. 21#Micha 7:6; Luc 21:16A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. 22A #Luc 21:17chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond #Pen 24:13; Marc 13:13yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. 23A #Pen 2:13; 4:12; 12:15; Act 8:1; 9:25; 14:6phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn. 24#Luc 6:40; Ioan 13:16; 15:20Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro, na’r gwas yn uwch na’i arglwydd. 25Digon i’r disgybl fod fel ei athro, a’r gwas fel ei arglwydd. Os #Pen 12:24; Marc 3:22; Luc 11:15; Ioan 8:48galwasant berchen y tŷ yn #10:25 Gr. Beelsebwl.Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef? 26Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid #Marc 4:22; Luc 8:17; 12:2nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nas gwybyddir. 27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau’r tai. 28#Luc 12:4Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corff, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorff yn uffern. 29Oni werthir dau aderyn y to er ffyrling? ac ni syrth un ohonynt ar y ddaear heb eich Tad chwi. 30#1 Sam 14:45; 2 Sam 14:11; Luc 21:18; Act 27:34Ac y mae, ie, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif. 31Nac ofnwch gan hynny: chwi a delwch fwy na llawer o adar y to. 32#Luc 12:8; Rhuf 10:9, 10Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i yng ngŵydd dynion, #Dat 3:5minnau a’i cyffesaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd: 33#Marc 8:38; Luc 9:26; 2 Tim 2:12A phwy bynnag a’m gwado i yng ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau yng ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 34#Luc 12:49, 51Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y ddaear: ni ddeuthum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf. 35Canys mi a ddeuthum i osod dyn i ymrafaelio #Micha 7:6yn erbyn ei dad, a’r ferch yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr. 36A #Salm 41:9; 55:13; Micha 7:6; Ioan 13:18gelynion dyn fydd tylwyth ei dŷ ei hun. 37#Luc 14:26Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy na myfi, nid yw deilwng ohonof fi. 38#Pen 16:24; Marc 8:34; Luc 9:23; 14:27A’r hwn nid yw yn cymryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng ohonof fi. 39#Luc 17:33; Ioan 12:25Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegid i, a’i caiff hi.
40 #
Pen 18:5
; Luc 10:16; Ioan 13:20; Gal 4:14Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 41#1 Bren 17:10; 18:4; 2 Bren 4:8Y neb sydd yn derbyn proffwyd yn enw proffwyd, a dderbyn wobr proffwyd; a’r neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. 42#Pen 18:5, 6; 25:40; Marc 9:41; Heb 6:10A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.
Dewis Presennol:
Mathew 10: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society