Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 7

7
1 Cyfraith yr offrwm dros gamwedd, 11 a’r aberthau hedd: 12 pa un bynnag fo ai aberth diolch, 16 ai adduned, ai rhodd o wirfodd. 22 Gwahardd y braster, 26 a’r gwaed. 28 Rhan yr offeiriad o’r aberthau hedd.
1 # Pen 5 ; 6Dyma hefyd gyfraith yr offrwm dros gamwedd: #Pen 21:22sancteiddiolaf yw. 2#Pen 1:3, 5, 11; 4:24, 29, 33Yn y man lle y lladdant y poethoffrwm, y lladdant yr aberth dros gamwedd; a’i waed a daenella efe ar yr allor o amgylch. 3A’i #Exod 29:13; Pen 3:4, 10; 4:8, 9holl wêr a offryma efe ohono; y gloren hefyd, a’r weren fol. 4A’r ddwy aren, a’r gwêr fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 5A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: aberth dros gamwedd yw. 6#Num 18:9, 10Pob gwryw ymysg yr offeiriaid a’i bwyty: yn y lle sanctaidd y bwyteir ef: sancteiddiolaf yw. 7Fel y mae yr aberth dros bechod, felly y bydd #Pen 6:26yr aberth dros gamwedd; un gyfraith sydd iddynt: yr offeiriad, yr hwn a wna gymod ag ef, a’i piau. 8A’r offeiriad a offrymo boethoffrwm neb, yr offeiriad a gaiff iddo ei hun groen y poethoffrwm a offrymodd efe. 9A #Pen 2:3, 10; Num 18:9phob bwyd‐offrwm a graser mewn ffwrn, a’r hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo’r offeiriad a’i hoffrymo. 10A phob bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew, neu yn sych, a fydd i holl feibion Aaron, bob un fel ei gilydd. 11#Pen 3:1; 22:18, 21Dyma hefyd gyfraith yr ebyrth hedd a offryma efe i’r Arglwydd. 12Os yn lle diolch yr offryma efe hyn; offrymed gyda’r aberth diolch deisennau croyw, wedi eu cymysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro ag olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymysgu ag olew. 13Heblaw’r teisennau, offrymed fara lefeinllyd, yn ei offrwm, gyda’i hedd‐aberth o ddiolch. 14Ac offrymed o hyn un dorth o’r holl offrwm, yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd; a bydded hwnnw eiddo’r offeiriad a daenello waed yr ebyrth hedd. 15A chig ei hedd‐aberth o ddiolch a fwyteir y dydd yr offrymir ef: na adawer dim ohono hyd y bore. 16Ond #Pen 19:7, 8os adduned, neu offrwm gwirfodd, fydd aberth ei offrwm ef; y dydd yr offrymo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill ohono. 17Ond yr hyn a fyddo o gig yr aberth yn weddill y trydydd dydd, llosger yn tân. 18Ac os bwyteir dim o gig offrwm ei ebyrth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i’r hwn a’i hoffrymo ef, ac nis cyfrifir iddo, ffieiddbeth fydd: a’r dyn a fwyty ohono, a ddwg ei anwiredd. 19A’r cig a gyffyrddo â dim aflan, ni fwyteir; mewn tân y llosgir ef: a’r cig arall, pob glân a fwyty ohono. 20A’r dyn a fwytao gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd, #Pen 15:3a’i aflendid arno; #Gen 17:14torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl. 21Ac os dyn a gyffwrdd â dim aflan, sef ag #Pen 12; 13; 15aflendid dyn, neu ag anifail #Pen 11:24, 28aflan, neu ag un ffieiddbeth aflan, a bwyta o gig yr hedd‐aberth, yr hwn a berthyn i’r Arglwydd; yna y torrir ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
22Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 23Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, #Pen 3:17Na fwytewch ddim gwêr eidion, neu ddafad, neu afr. 24Eto gwêr burgyn, neu wêr ysglyfaeth, a ellir ei weithio mewn pob gwaith; ond gan fwyta na fwytewch ef. 25Oherwydd pwy bynnag a fwyta o wêr yr anifail, o’r hwn yr offrymir aberth tanllyd i’r Arglwydd; torrir ymaith yr enaid a’i bwytao o fysg ei bobl. 26#Gen 9:4; Pen 3:17; 17:14Na fwytewch chwaith ddim gwaed o fewn eich cyfanheddau, o’r eiddo aderyn, nac o’r eiddo anifail. 27Pob enaid a fwytao ddim gwaed, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl.
28A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 29Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y neb a offrymo ei aberth hedd i’r Arglwydd, dyged ei rodd o’i aberth hedd i’r Arglwydd. 30#Pen 3:3, 4, 9, 14Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd yr Arglwydd; y gwêr ynghyd â’r barwyden a ddwg efe; #Exod 29:24, 27y barwyden fydd i’w chyhwfanu, yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 31A llosged yr offeiriad y gwêr ar yr allor: a bydded y barwyden i Aaron ac i’w feibion. 32Rhoddwch hefyd y balfais ddeau yn offrwm dyrchafael i’r offeiriad, o’ch ebyrth hedd. 33Yr hwn o feibion Aaron a offrymo waed yr ebyrth hedd, a’r gwêr; bydded iddo ef yr ysgwyddog ddeau yn rhan. 34Oherwydd #Exod 29:28; Pen 10:14 Num 18:18; Deut 18:3parwyden y cyhwfan, ac ysgwyddog y dyrchafael, a gymerais i gan feibion Israel o’u hebyrth hedd, ac a’u rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac i’w feibion, trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel.
35Hyn yw rhan eneiniad Aaron ac eneiniad ei feibion, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yn y dydd y nesaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd; 36Yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi iddynt, #Exod 40:13, 15; Pen 8:12, 30y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, trwy ddeddf dragwyddol, trwy eu cenedlaethau. 37Dyma gyfraith y poethoffrwm, y bwyd‐offrwm, a’r aberth dros bechod, a’r aberth dros gamwedd, a’r cysegriadau, a’r aberth hedd; 38Yr hon a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchmynnodd efe i feibion Israel offrymu eu hoffrymau i’r Arglwydd, yn anialwch Sinai.

Dewis Presennol:

Lefiticus 7: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda