Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 8

8
1 Moses yn cysegru Aaron a’i feibion. 14 Eu haberth dros bechod. 18 Eu poeth‐offrwm. 22 Hwrdd y cysegriadau. 31 Y lle a’r amser y cysegrid hwynt.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2#Exod 29:1Cymer Aaron a’i feibion gydag ef, a’r #Exod 28:2, 4gwisgoedd, ac #Exod 30:24olew yr eneiniad, a bustach yr aberth dros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croyw: 3A chasgl yr holl gynulleidfa ynghyd i ddrws pabell y cyfarfod. 4A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglwyd y gynulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod. 5A dywedodd Moses wrth y gynulleidfa, #Exod 29:4Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd ei wneuthur. 6A Moses a ddug Aaron a’i feibion, ac a’u golchodd hwynt â dwfr. 7Ac efe a roddes amdano ef #Exod 28:4y bais, ac a’i gwregysodd ef â’r gwregys, ac a wisgodd y fantell amdano, ac a roddes yr effod amdano, ac a’i gwregysodd â gwregys cywraint yr effod, ac a’i caeodd amdano ef. 8Ac efe a osododd y ddwyfronneg arno, ac a #Exod 28:30roddes yr Urim a’r Thummim yn y ddwyfronneg. 9Ac efe a osododd y meitr ar ei ben ef; ac a osododd ar y meitr ar ei dalcen ef, y dalaith aur, y goron sanctaidd; fel y #Exod 28:37 &cgorchmynasai’r Arglwydd i Moses. 10#Exod 30:26A Moses a gymerodd olew yr eneiniad, ac a eneiniodd y tabernacl, a’r hyn oll oedd ynddo; ac a’u cysegrodd hwynt. 11Ac a daenellodd ohono ar yr allor saith waith, ac a eneiniodd yr allor a’i holl lestri, a’r noe hefyd a’i throed, i’w cysegru. 12Ac efe #Exod 29:7; 30:30; Salm 133:2a dywalltodd o olew’r eneiniad ar ben Aaron, ac a’i heneiniodd ef, i’w gysegru. 13#Exod 29:8A Moses a ddug feibion Aaron, ac a wisgodd beisiau amdanynt, a gwregysodd hwynt â gwregysau, ac a #8:13 Heb. rwymodd.osododd gapiau am eu pennau; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses. 14#Exod 29:10Ac efe a ddug fustach yr aberth dros bechod: ac Aaron a’i feibion a roddasant eu dwylo ar ben bustach yr aberth dros bechod; 15Ac efe a’i lladdodd: a Moses a gymerth y gwaed, ac a’i rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch â’i fys, ac #Exod 29:36a burodd yr allor; ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac a’i cysegrodd hi, i wneuthur cymod arni. 16Efe a gymerodd hefyd yr holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u gwêr; a Moses a’i llosgodd ar yr allor. 17A’r bustach, a’i groen, a’i gig, a’i fiswail, a losgodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwersyll: fel #Exod 29:14; Pen 4:11y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
18 # Exod 29:15 Ac efe a ddug hwrdd y poethoffrwm: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd: 19Ac efe a’i lladdodd; a Moses a daenellodd y gwaed ar yr allor o amgylch. 20Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ei ddarnau; a llosgodd Moses y pen, y darnau, a’r gwêr. 21Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr; a llosgodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor. Poethoffrwm yw hwn, i fod yn arogl peraidd ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; fel #Exod 29:18y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses.
22Ac #Exod 29:19efe a ddug yr ail hwrdd, sef hwrdd y cysegriad: ac Aaron a’i feibion a osodasant eu dwylo ar ben yr hwrdd. 23Ac efe a’i lladdodd; a Moses a gymerodd o’i waed, ac a’i rhoddes ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau. 24Ac efe a ddug feibion Aaron: a Moses a roes o’r gwaed ar gwr isaf eu clust ddeau, ac ar fawd eu llaw ddeau, ac ar fawd eu troed deau; a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch. 25Ac efe a gymerodd hefyd y gwêr, a’r gloren, a’r holl wêr oedd ar y perfedd, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a’r ddwy aren a’u braster, a’r ysgwyddog ddeau. 26A chymerodd o gawell y bara croyw, yr hwn oedd gerbron yr Arglwydd, un deisen groyw, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen; ac a’u gosododd ar y gwêr, ac ar yr ysgwyddog ddeau: 27Ac a roddes y cwbl #Exod 29:24 &car ddwylo Aaron, ac ar ddwylo ei feibion, ac a’u cyhwfanodd hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 28A Moses a’u cymerth oddi ar eu dwylo hwynt, ac a’u llosgodd ar yr allor, ar yr offrwm poeth. Dyma gysegriadau o arogl peraidd: dyma aberth tanllyd i’r Arglwydd. 29Cymerodd Moses y barwyden hefyd, ac a’i cyhwfanodd yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: #Exod 29:26rhan Moses o hwrdd y cysegriad oedd hi; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 30A #Exod 29:21; 30:30chymerodd Moses o olew yr eneiniad, ac o’r gwaed oedd ar yr allor, ac a’i taenellodd ar Aaron, ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion ynghyd ag ef: ac efe a gysegrodd Aaron, a’i wisgoedd, a’i feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion ynghyd ag ef.
31A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, #Exod 29:31Berwch y cig wrth ddrws pabell y cyfarfod: ac yno bwytewch ef, a’r bara hefyd sydd yng nghawell y cysegriadau; megis y gorchmynnais, gan ddywedyd, Aaron a’i feibion a’i bwyty ef. 32A’r gweddill o’r cig, ac o’r bara, a losgwch yn tân. 33Ac nac ewch dros saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cysegriadau: oherwydd #Exod 29:30, 35; Esec 43:25saith niwrnod y bydd efe yn eich cysegru chwi. 34Megis y gwnaeth efe heddiw, y gorchmynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur cymod drosoch. 35Ac arhoswch wrth ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod, ddydd a nos, a chedwch wyliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd. 36A gwnaeth Aaron a’i feibion yr holl bethau a orchmynnodd yr Arglwydd trwy law Moses.

Dewis Presennol:

Lefiticus 8: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda