Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 19

19
Ail‐adrodd amryw gyfreithiau.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, #Pen 11:44; 20:7, 26; 1 Pedr 1:16Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.
3 # Exod 20:12 Ofnwch bob un ei fam, a’i dad; a #Exod 20:8; 31:13chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi. 4#Exod 20:4Na throwch at eilunod, ac #Exod 34:17; Deut 27:15na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
5A #Pen 7:16phan aberthoch hedd‐aberth i’r Arglwydd, yn ôl eich ewyllys eich hun yr aberthwch hynny. 6Ar y dydd yr offrymoch, a thrannoeth, y bwyteir ef: a llosger yn tân yr hyn a weddillir hyd y trydydd dydd. 7Ond os gan fwyta y bwyteir ef o fewn y trydydd dydd, ffiaidd fydd efe; ni bydd gymeradwy. 8A’r hwn a’i bwytao a ddwg ei anwiredd, am iddo halogi cysegredig beth yr Arglwydd; a’r enaid hwnnw a dorrir ymaith o blith ei bobl.
9A #Pen 23:22; Deut 24:19; Ruth 2:15, 16phan gynaeafoch gynhaeaf eich tir, na feda yn llwyr gonglau dy faes, ac na chynnull loffion dy gynhaeaf. 10Na loffa hefyd dy winllan, ac na chynnull rawn gweddill dy winllan; gad hwynt i’r tlawd ac i’r dieithr: yr Arglwydd eich Duw chwi ydwyf fi.
11 # Exod 20:15; 22:1, 7, 10; Pen 6:2 Na ladratewch, ac na ddywedwch gelwydd, ac na thwyllwch bob un ei gymydog.
12Ac #Exod 20:7; Pen 6:3; Deut 5:11; Mat 5:34; Iago 5:12na thyngwch i’m henw i yn anudon, ac na haloga enw dy Dduw; yr Arglwydd ydwyf fi.
13Na chamatal oddi wrth dy gymydog, ac nac ysbeilia ef: #Deut 24:14, 15; Mal 3:5; Iago 5:4na thriged cyflog y gweithiwr gyda thi hyd y bore.
14Na felltiga’r byddar, ac #Deut 27:18na ddod dramgwydd o flaen y dall; ond ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
15Na wnewch gam mewn barn; #Exod 23:3; Deut 1:17; 16:19; 27:19; Diar 24:23; Iago 2:9na dderbyn wyneb y tlawd, ac na pharcha wyneb y cadarn: barna dy gymydog mewn cyfiawnder.
16Ac #Exod 23:1; Salm 15:3; 50:20; Diar 11:13; 20:19na rodia yn athrodwr ymysg dy bobl; na saf yn erbyn gwaed dy gymydog: yr Arglwydd ydwyf fi.
17 # 1 Ioan 2:11; 3:15 Na chasâ dy frawd yn dy galon: #Mat 18:15; Luc 17:3; Gal 6:1; Eff 5:11; 1 Tim 5:20gan geryddu cerydda dy gymydog, #19:17 Neu, rhag i ti ddwyn pechod drosto. Edrych Rhuf 1:32; 1 Cor 5:2; Eff 5:11; 1 Tim 5:22; 2 Ioan 10, 11ac na ddioddef bechod ynddo.
18Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl; ond #Mat 5:43; 22:39; Rhuf 13:9; Gal 5:14; Iago 2:8câr dy gymydog megis ti dy hun: yr Arglwydd ydwyf fi.
19Cedwch fy neddfau: na ad i’th anifeiliaid gydio o amryw rywogaeth, #Deut 22:9, 10, 11ac na heua dy faes ag amryw had; ac nac aed amdanat ddilledyn cymysg o lin a gwlân.
20A phan fyddo i ŵr a wnelo â benyw, a hithau yn forwyn gaeth wedi ei #19:20 Neu, amherchi gan neb. Heb. enllibio gan, neu, am ŵr.dyweddïo i ŵr, ac heb ei rhyddhau ddim, neu heb roddi rhyddid iddi; bydded #19:20 Neu, iddi. iddynt gurfa; ac na ladder hwynt, am nad oedd hi rydd. 21A #Pen 5:15dyged efe yn aberth dros ei gamwedd i’r Arglwydd, i ddrws pabell y cyfarfod, hwrdd dros gamwedd. 22A gwnaed yr offeiriad gymod drosto â’r hwrdd dros gamwedd, gerbron yr Arglwydd, am ei bechod a bechodd efe: a maddeuir iddo am ei bechod a wnaeth efe.
23A phan ddeloch i’r tir, a phlannu ohonoch bob pren ymborth; cyfrifwch yn ddienwaededig ei ffrwyth ef; tair blynedd y bydd efe megis dienwaededig i chwi: na fwytaer ohono. 24A’r bedwaredd flwyddyn y bydd ei holl ffrwyth yn #19:24 sancteiddrwydd moliant i’r &csanctaidd i foliannu yr Arglwydd ag ef. 25A’r bumed flwyddyn y bwytewch ei ffrwyth, fel y chwanego efe ei gnwd i chwi: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
26 # Pen 17:10 &c Na fwytewch ddim ynghyd â’i waed: #Deut 18:10; 1 Sam 15:23nac arferwch na swynion, na choel ar frudiau. 27#Pen 21:5Na thalgrynnwch odre eich pen, ac na thor gyrrau dy farf. 28Ac #Deut 14:1; Jer 16:6na wnewch doriadau yn eich cnawd am un marw, ac na roddwch brint nod arnoch: yr Arglwydd ydwyf fi.
29Na haloga dy ferch, gan beri iddi buteinio: rhag puteinio’r tir, a llenwi’r wlad o ysgelerder.
30 # Pen 26:2 Cedwch fy Sabothau, a pherchwch fy nghysegr: yr Arglwydd ydwyf fi.
31 # Pen 20:6, 27; Deut 18:10; Esa 8:19; Act 16:16Nac ewch ar ôl dewiniaid, ac nac ymofynnwch â’r brudwyr, i ymhalogi o’u plegid: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
32Cyfod gerbron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
33A #Exod 22:21; 23:9phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na #19:33 orthrymwch.flinwch ef. 34#Exod 23:9Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo ohonoch, a #Deut 10:19châr ef fel ti dy hun; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
35Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur. 36Bydded i chwi #Deut 25:13; Diar 11:1; 16:11; 20:10gloriannau cyfiawn, #19:36 bwysau.gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft. 37Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.

Dewis Presennol:

Lefiticus 19: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda