Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 49

49
1 Jacob yn galw ei feibion i’w bendithio. 3 Bendith pob un ohonynt. 29 Mae efe yn rhoddi siars arnynt ynghylch ei gladdedigaeth; 33 ac yn marw.
1Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf. 2Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad.
3 # Pen 29:32 Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a #Deut 21:17; Salm 78:51dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder. 4Ansafadwy oeddit fel dwfr: #49:4 Heb. na ragora.ni ragori di; canys #Pen 35:22; 1 Cron 5:1dringaist wely dy dad: yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.
5 # Pen 29:33, 34 Simeon a Lefi sydd frodyr; #49:5 Neu, arfau trawster yw eu cleddyfau.offer creulondeb sydd yn eu hanheddau. 6Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynulleidfa hwynt: canys #Pen 34:25yn eu dig y lladdasant ŵr, ac o’u gwirfodd y #49:6 Neu, diwylliasant ychen.diwreiddiasant gaer. 7Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulon fu: #Jos 19:1; 21:5, 6, 7; 1 Cron 4:24, 39rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.
8 # Pen 29:35 Tithau, Jwda, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; #1 Cron 5:2meibion dy dad a ymgrymant i ti. 9Cenau llew wyt ti, Jwda; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: #Num 23:24; 24:9ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef? 10Nid ymedy’r deyrnwialen o Jwda, na #Salm 60:7; 108:8deddfwr oddi rhwng ei draed ef, #Esec 21:27; Luc 1:32hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd. 11Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin. 12Coch fydd ei #Diar 23:29lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth.
13 # Deut 33:18; Jos 19:10 Sabulon a breswylia ym mhorth‐leoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon.
14Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn. 15Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.
16 # Deut 33:22 Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel. 17Dan fydd sarff ar y ffordd, a #49:17 Heb. saeth‐neidr.neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau’r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl. 18#Salm 119:166Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.
19 # Deut 33:20; 1 Cron 5:18 Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd.
20O #Deut 33:24; Jos 19:24Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.
21 # Deut 33:23 Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.
22Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, #49:22 Heb. merched.ceinciau yn cerdded ar hyd mur. 23A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef. 24Er hynny arhodd ei #Job 29:20fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo #Salm 132:2grymus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel: 25Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th gynorthwya, a’r Hollalluog, #Deut 33:13yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth. 26Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr.
27Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr ysbail.
28Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll; a dyma’r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt. 29Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi #Pen 15:15; 25:8a gesglir at fy mhobl: #Pen 47:30cleddwch fi gyda’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad; 30Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, #Pen 23:16yr hon a brynodd Abraham gyda’r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod. 31#Pen 23:19; 25:9Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; #Pen 35:29yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea. 32Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth. 33Pan orffennodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.

Dewis Presennol:

Genesis 49: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda