Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 48

48
1 Joseff a’i ddau fab yn ymweled â’i dad yn ei glefyd. 2 Jacob yn ymgryfhau i’w bendithio hwy. 3 Yn adrodd yr addewid. 5 Yn cymryd Effraim a Manasse yn eiddo ei hun. 7 Yn crybwyll wrtho am fedd ei fam. 9 Yn bendithio Effraim a Manasse. 17 Yn gosod yr ieuengaf o flaen yr hynaf. 21 Yn proffwydo am eu dychweliad hwy i Canaan.
1A bu, wedi’r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim. 2A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely. 3A dywedodd Jacob wrth Joseff, Duw Hollalluog a ymddangosodd i mi yn #Pen 28:13; 35:6Lus, yng ngwlad Canaan, ac a’m bendithiodd: 4Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a’th wnaf yn ffrwythlon, ac a’th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y’th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i’th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.
5Ac yr awr hon, dy #Pen 41:50; 46:20|GEN 46:20; Jos 14:4ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i’r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon. 6A’th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun; ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.
7A phan ddeuthum i o #48:7 Padan‐Aram.Mesopotamia, bu #Pen 35:19Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem. 8A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn? 9A Joseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd Duw i mi yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a’u bendithiaf hwynt. 10#Pen 27:1Llygaid Israel hefyd oedd #48:10 dywyll.drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a’u dygodd hwynt ato ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a’u cofleidiodd. 11Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele, parodd Duw i mi weled dy had hefyd. 12A Joseff a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb. 13Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a’u nesaodd hwynt ato ef. 14Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a’i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a’i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.
15Ac #Heb 11:21efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, Duw, #Pen 17:1; 24:40yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a’m porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn, 16Yr angel #Pen 28:15; 31:11, 13yr hwn a’m gwaredodd i oddi wrth bob drwg, a fendithio’r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: #48:16 cynyddant.heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad. 17Pan welodd Joseff osod o’i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse. 18Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma’r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef. 19A’i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd; ond yn wir #Num 1:33, 35; 2:19, 21; Deut 33:17; Dat 7:6, 8ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn #48:19 Heb. llawnder.lliaws o genhedloedd. 20Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, #Felly Ruth 4:11, 12Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed Duw di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse. 21Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Wele fi yn marw; a bydd Duw gyda chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau. 22A #Jos 24:32; Ioan 4:5mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa.

Dewis Presennol:

Genesis 48: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda