Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 17

17
1 Duw yn adnewyddu y cyfamod. 5 Newid enw Abram, yn arwydd o fendith fwy. 10 Ordeinio enwaediad. 15 Newid enw Sarai, a’i bendithio. 16 Addewid o Isaac. 23 Enwaedu ar Abraham ac Ismael.
1A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr Arglwydd i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog; #Pen 5:22; 48:15; 1 Bren 2:4; 8:25rhodia ger fy mron i, a bydd #17:1 Neu, uniawn, neu, bur.berffaith. 2A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac #Pen 12:2; 13:16a’th amlhaf di yn aml iawn. 3Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd Duw wrtho ef, gan ddywedyd, 4Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad #17:4 lliaws.llawer o genhedloedd. 5A’th enw ni elwir mwy Abram, onid #Neh 9:7dy enw fydd Abraham; #Rhuf 4:17canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum. 6A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf #Pen 35:11genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti. 7Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn Dduw i ti, ac i’th had ar dy ôl di. 8A #Pen 12:7; 13:15mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
9A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a’th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd. 10Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ôl di: #Act 7:8enwaedir pob gwryw ohonoch chwi. 11A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd #Rhuf 4:11yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau. 12Pob gwryw yn wyth niwrnod oed #Lef 12:3; Luc 2:21; Ioan 7:22a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th had di. 13Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol. 14A’r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i.
15 Duw hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi. 16Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn #Pen 35:11genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi. 17Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain? 18Ac Abraham a ddywedodd wrth Dduw, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di! 19A Duw a ddywedodd, #Pen 18:10; 21:2Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â’i had ar ei ôl ef. 20Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, #Pen 16:10mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i lluosogaf yn aml iawn: #Pen 25:12, 16deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. 21Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, #Pen 21:2yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf. 22Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a Duw a aeth i fyny oddi wrth Abraham.
23Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai Duw wrtho ef. 24Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef. 25Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef. 26O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab. 27A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gydag ef.

Dewis Presennol:

Genesis 17: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda