Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 16

16
1 Sarai, yn amhlantadwy, yn rhoddi Agar i Abram. 6 Agar, wedi ei chystuddio am ddiystyru ei meistres, yn rhedeg i ffordd. 9 Angel yn ei danfon hi yn ei hôl i’w darostwng ei hun, 11 ac yn dywedyd iddi am ei mab. 15 Genedigaeth Ismael.
1Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a’i henw #Gal 4:24Agar. 2A Sarai a ddywedodd wrth Abram, Wele yn awr, yr Arglwydd a luddiodd i mi blanta: #Felly Pen 30:3, 9dos, atolwg, at fy llawforwyn; fe allai #16:2 Heb. yr adeiledir fi ganddi hi.y ceir i mi blant ohoni hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai. 3A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.
4Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi. 5Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi. 6Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd #16:6 Heb. rhag ei hwyneb.rhagddi hi.
7Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd #Exod 15:22Sur: 8Ac efe a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr ei di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai. 9Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrthi, Dychwel at dy feistres, ac ymddarostwng tan ei dwylo hi. 10Angel yr Arglwydd a ddywedodd hefyd wrthi hi, #Pen 17:20Gan amlhau yr amlhaf dy had di, fel na rifir ef o luosowgrwydd. 11Dywedodd angel yr Arglwydd hefyd wrthi hi, Wele di yn feichiog, a thi a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef #16:11 Sef, Duw a wrendy.Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di. 12Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; #Pen 25:18ac efe a drig gerbron ei holl frodyr. 13#Edrych Pen 32:30A hi a alwodd enw yr Arglwydd, yr hwn oedd yn llefaru wrthi, Ti, O Dduw, wyt yn edrych arnaf fi: canys dywedodd, Oni edrychais yma hefyd ar ôl yr hwn sydd yn edrych arnaf? 14Am hynny y galwyd y ffynnon #Pen 24:02; 25:11#16:14 Sef, ffynnon yr hwn sydd yn byw ac yn fy ngweled.Beer‐lahai‐roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.
15Ac #Gal 4:22Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael. 16Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.

Dewis Presennol:

Genesis 16: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda