Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 3

3
1 Moses yn bugeilio defaid Jethro. 2 Duw yn ymddangos iddo mewn perth yn llosgi: 9 ac yn ei anfon ef i waredu Israel. 14 Enw Duw. 15 Ei genadwriaeth ef at Israel.
1A Moses oedd yn bugeilio defaid Jethro ei #3:1 Neu, dad yng nghyfraith.chwegrwn, offeiriad Midian: ac efe a yrrodd y praidd o’r tu cefn i’r anialwch, ac a ddaeth i #Pen 18:5; 1 Bren 19:8fynydd Duw, Horeb. 2Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn #Deut 33:16; Act 7:30fflam dân o ganol perth: ac efe a edrychodd, ac wele y berth yn llosgi yn dân, a’r berth heb ei difa. 3A dywedodd Moses, Mi a droaf yn awr, ac a edrychaf ar y weledigaeth fawr hon, paham nad yw’r berth wedi llosgi. 4Pan welodd yr Arglwydd ei fod efe yn troi i edrych, Duw a alwodd arno #Deut 33:16o ganol y berth, ac a ddywedodd, Moses, Moses. A dywedodd yntau, Wele fi. 5Ac efe a ddywedodd, Na nesâ yma: #Jos 5:15; Act 7:33diosg dy esgidiau oddi am dy draed; oherwydd y lle yr wyt ti yn sefyll arno sydd ddaear sanctaidd. 6Ac efe a ddywedodd, #Mat 22:32; Marc 12:26; Luc 20:37; Act 7:32Myfi yw Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob. A Moses a guddiodd ei wyneb; oblegid #Felly 1 Bren 19:13; Esa 6:1, 5ofni yr ydoedd edrych ar Dduw.
7A dywedodd yr Arglwydd, Gan weled y gwelais gystudd fy mhobl sydd yn yr Aifft, #Pen 2:23a’u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais; canys mi a wn oddi wrth eu doluriau. 8A #Gen 11:5, 7; 18:21mi a ddisgynnais i’w gwaredu hwy o law yr Eifftiaid, ac i’w dwyn o’r wlad honno i wlad dda a helaeth, i wlad yn llifeirio o laeth a mêl; i le #Gen 15:18y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid. 9Ac yn awr wele, gwaedd meibion Israel a ddaeth ataf fi; a hefyd mi a welais y gorthrymder â’r hwn y gorthrymodd yr Eifftiaid hwynt. 10#Salm 105:26Tyred gan hynny yn awr, a mi a’th anfonaf at Pharo; fel y dygech fy mhobl, plant Israel, allan o’r Aifft.
11A dywedodd Moses wrth Dduw, #Edrych Esa 6:5, 8; Jer 1:6Pwy ydwyf fi, fel yr awn i at Pharo, ac y dygwn blant Israel allan o’r Aifft? 12Dywedodd yntau, Diau #Jos 1:5y byddaf gyda thi; a hyn a fydd arwydd i ti, mai myfi a’th anfonodd: Wedi i ti ddwyn fy mhobl allan o’r Aifft, chwi a wasanaethwch Dduw ar y mynydd hwn. 13A dywedodd Moses wrth Dduw, Wele, pan ddelwyf fi at feibion Israel, a dywedyd wrthynt, Duw eich tadau a’m hanfonodd atoch; os dywedant wrthyf, Beth yw ei enw ef? beth a ddywedaf fi wrthynt? 14A Duw a ddywedodd wrth Moses, YDWYF YR HWN YDWYF: dywedodd hefyd, Fel hyn yr adroddi wrth feibion Israel; #Pen 6:3; 2 Cor 1:20; Heb 13:8; Dat 1:4YDWYF a’m hanfonodd atoch. 15A Duw a ddywedodd drachefn wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, a’m hanfonodd atoch: dyma #Salm 135:13fy enw byth, a dyma fy nghoffadwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. 16Dos a #Pen 4:29chynnull henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Arglwydd Dduw eich tadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, a ymddangosodd i mi, gan ddywedyd, #Gen 50:24Gan ymweled yr ymwelais â chwi, a gwelais yr hyn a wnaed i chwi yn yr Aifft. 17A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fyny o adfyd yr Aifft, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl. 18A #Pen 4:31hwy a wrandawant ar dy lais; a thi a ddeui, ti a henuriaid Israel, at frenin yr Aifft, a dywedwch wrtho, Arglwydd #Pen 5:3Dduw yr Hebreaid a gyfarfu â ni; ac yn awr gad i ni fyned, atolwg, daith tri diwrnod i’r anialwch, fel yr aberthom i’r Arglwydd ein Duw.
19A mi a wn na edy brenin yr Aifft i chwi fyned, ond mewn llaw gadarn. 20Am hynny mi a estynnaf fy llaw, ac a drawaf yr Aifft â’m holl ryfeddodau, y rhai a wnaf yn ei chanol; ac wedi hynny efe a’ch gollwng chwi ymaith. 21A rhoddaf hawddgarwch i’r bobl hyn yng ngolwg yr Eifftiaid: a bydd, #Gen 15:14pan eloch, nad eloch yn waglaw; 22#Pen 11:2; 12:35Ond pob gwraig a fenthycia gan ei chymdoges, a chan yr hon fyddo yn cytal â hi, #3:22 dlysau.ddodrefn arian, a dodrefn aur, a gwisgoedd: a chwi a’u gosodwch hwynt am eich meibion ac am eich merched; ac #Esec 39:10a ysbeiliwch yr #3:22 Neu, Aifft.Eifftiaid.

Dewis Presennol:

Exodus 3: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda