Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 4

4
1 Troi gwialen Moses yn sarff. 6 Ei law ef yn gwahanglwyfo. 10 Efe yn anewyllysgar i’w anfon. 14 Apwyntio Aaron i’w helpu ef. 18 Moses yn ymadael oddi wrth Jethro. 21 Cenadwriaeth Duw at Pharo. 24 Seffora yn enwaedu ar ei mab. 27 Danfon Aaron i gyfarfod â Moses. 31 Y bobl yn credu iddynt.
1A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti. 2A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen. 3Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi. 4Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:) 5Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.
6A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol #Num 12:10; 2 Bren 5:27fel yr eira. 7Ac efe a ddywedodd, Dod eilwaith dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd eilwaith ei law yn ei fynwes, ac a’i tynnodd hi allan o’i fynwes; ac wele, hi a droesai fel ei gnawd arall ef. 8A bydd, oni chredant i ti, ac oni wrandawant ar lais yr arwydd cyntaf, eto y credant i lais yr ail arwydd. 9A bydd, oni chredant hefyd i’r ddau arwydd hyn, ac oni wrandawant ar dy lais, ti a gymeri o ddwfr yr afon ac a’i tywellti ar y sychdir; #4:9 Heb. bydd a bydd.a bydd #Pen 7:19y dyfroedd a gymerech o’r afon yn waed ar y tir sych.
10A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr #4:10 o eiriau.ymadroddus, #4:10 Heb. na doe nac echdoe.na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr #Pen 6:12safndrwm a thafotrwm ydwyf. 11A dywedodd yr Arglwydd wrtho, #Salm 94:9Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr Arglwydd? 12Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf #Mat 10:19; Marc 13:11; Luc 12:11gyda’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych. 13Dywedodd yntau, O fy Arglwydd, danfon, atolwg, gyda’r hwn a #4:13 ddylit ei ddanfon.ddanfonych. 14Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon. 15#Pen 7:1, 2Llefara dithau wrtho ef, a gosod y geiriau hyn yn ei enau: a minnau a fyddaf gyda’th enau di, a chyda’i enau yntau, a dysgaf i chwi yr hyn a wneloch. 16A llefared yntau trosot ti wrth y bobl: ac felly y bydd efe yn lle genau i ti, #Pen 7:1a thithau a fyddi yn lle Duw iddo yntau. 17Cymer hefyd y wialen hon yn dy law, yr hon y gwnei wyrthiau â hi.
18A Moses a aeth, ac a ddychwelodd at #4:18 Heb. Jether.Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch. 19A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aifft; oherwydd #Pen 2:15, 23; Mat 2:20bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes. 20A Moses a gymerth ei wraig, a’i feibion, ac a’u gosododd hwynt ar asyn, ac a ddychwelodd i wlad yr Aifft: cymerodd Moses hefyd wialen Duw yn ei law. 21A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pan elych i ddychwelyd i’r Aifft, gwêl i ti wneuthur gerbron Pharo yr holl ryfeddodau a roddais yn dy law: ond #Pen 7:3, 13; 9:12; 10:1; 14:8; Deut 2:30; Jos 11:20; Esa 63:17; Ioan 12:40; Rhuf 9:18mi a galedaf ei galon ef, fel na ollyngo ymaith y bobl. 22A dywed wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; #Rhuf 9:4Fy mab i, sef #Jer 31:9; Iago 1:18fy nghyntaf‐anedig, yw Israel. 23A dywedais wrthyt, Gollwng fy mab, fel y’m gwasanaetho: ond os gwrthodi ei ollwng ef, wele, #Pen 11:5; 12:29mi a laddaf dy fab di, sef dy gyntaf‐anedig.
24A bu, ar y ffordd yn y llety, #Num 22:22gyfarfod o’r Arglwydd ag ef, a cheisio ei ladd ef. 25Ond Seffora a gymerth #4:25 Neu, garreg.#Jos 5:2, 3gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi. 26A’r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.
27A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym #Pen 3:1mynydd Duw, ac a’i cusanodd ef. 28A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a’i hanfonasai ef, a’r arwyddion a orchmynasai efe iddo.
29A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel. 30Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl. 31A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna #Pen 12:27hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.

Dewis Presennol:

Exodus 4: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda