Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 23

23
1 Am enllib, a gau‐dystiolaeth. 3, 6 Am gyfiawnder. 4 Am gymdogaeth. 10 Am y flwyddyn orffwys. 12 Am y Saboth. 13 Am ddelw‐addoliaeth. 14 Am y tair gŵyl. 18 Am waed a braster yr aberth. 20 Addo angel, a bendithio, os hwy a ufuddhânt.
1Na #23:1 Neu, dderbyn.#Salm 15:3chyfod enllib; na ddod dy law gyda’r annuwiol i fod yn dyst anwir.
2 # Lef 19:15; Deut 1:17 Na ddilyn liaws i wneuthur drwg; ac nac ateb mewn ymrafael, gan bwyso yn ôl llaweroedd, i ŵyro barn.
3 # Salm 82:2 Na pharcha’r tlawd chwaith yn ei ymrafael.
4 # Deut 22:1; Job 31:29; Diar 24:17; 25:21; Mat 5:44; Rhuf 12:20 Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu â’i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo. 5#Deut 22:4Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â’i gynorthwyo? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef. 6Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael. 7Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na’r gwirion na’r cyfiawn: canys #Pen 34:7ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.
8 # Deut 16:19; Diar 17:8, 23; Preg 7:7 Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y #23:8 doethion.rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
9 # Pen 22:21 ; Deut 10:19; 24:14, 17; 27:19Na orthryma’r dieithr: chwi a wyddoch #23:9 Heb. enaid.galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft. 10#Lef 25:3Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth: 11A’r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden. 12#Pen 20:8; Deut 5:13; Luc 13:14Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: fel y caffo dy ych a’th asyn lonyddwch, ac y cymero mab dy forwyn gaeth, a’r dieithr ddyn, ei anadl ato. 13Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: #Num 32:38; Deut 12:3; Jos 23:7; Salm 16:4; Hos 2:17; Sech 13:2na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o’th enau.
14 # Lef 23:4; Deut 16:16 Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi. 15#Pen 12:15; 13:6; 34:18Gŵyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o’r Aifft: #Pen 34:20; Deut 16:16ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw: 16A gŵyl cynhaeaf blaenffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynullech dy lafur o’r maes. 17Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 18#Pen 34:25; Lef 2:11; Deut 16:4Nac abertha waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed braster fy #23:18 Neu, ngŵyl.aberth dros nos hyd y bore. 19#Pen 34:26Dwg i dŷ’r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaenffrwyth dy dir. #Deut 14:21Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.
20 # Pen 33:2, 14; Num 20:16Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffordd, ac i’th arwain i’r man a baratoais. 21Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddioddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef. 22Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur y cwbl a lefarwyf; #Gen 12:3; Deut 30:7; Jer 30:20mi a fyddaf elyn i’th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr. 23#ad. 20Oherwydd fy angel a â o’th flaen di, #Jos 24:11ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u difethaf hwynt. 24Nac ymgryma i’w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac #Lef 18:3; Deut 12:31na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt; #Pen 34:13; Num 33:52; Deut 7:5, 25; 12:3ond llwyr ddinistria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll. 25A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac #Deut 28:5, 8efe a fendithia dy fara, a’th ddwfr; a #Pen 15:26; Deut 7:15mi a dynnaf ymaith bob clefyd o’th fysg.
26 # Deut 7:14 Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau. 27Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt, ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau atat. 28A #Deut 7:20; Jos 24:12mi a anfonaf gacwn o’th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, allan o’th flaen di. 29#Deut 7:22Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di. 30O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes i ti gynyddu ac etifeddu’r tir. 31A #Gen 15:18; Num 34:3; Deut 11:24; Jos 1:4; 1 Bren 4:21, 24; Salm 72:8gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffeithwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen. 32#Pen 34:15; Deut 7:2Na wna amod â hwynt, nac â’u duwiau. 33Na ad iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, #Pen 34:12; Deut 7:16; Jos 23:13; Barn 2:3; 1 Sam 18:21; Salm 106:36diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.

Dewis Presennol:

Exodus 23: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda