Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 22

22
1 Am ladrad. 5 Am golled. 7 Am sarhad. 14 Am fenthyg. 16 Am anniweirdeb. 18 Am ddewiniaeth. 19 Am orwedd gydag anifail. 20 Am ddelw‐addoliaeth. 21 Am ddieithriaid, a gweddwon, ac amddifaid. 25 Am usuriaeth. 26 Am wystlon. 28 Am barch i swyddogion. 29 Am flaenffrwythau.
1Os lladrata un ych neu #22:1 Neu, afr.ddafad, a’i ladd, neu ei werthu; taled bum ych am ych, a #2 Sam 12:6; Luc 19:8; Edrych Diar 6:31phedair dafad am ddafad.
2Os ceir lleidr yn torri , a’i daro fel y byddo farw; na choller gwaed amdano. 3Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed amdano; efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad. 4Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.
5Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn gorau yn ei faes ei hun, ac o’r hyn gorau yn ei winllan ei hun.
6Os tân a dyr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difaer das o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân.
7Os rhydd un i’w gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, a’i ladrata o dŷ y gŵr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl: 8Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog. 9Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau gerbron y barnwyr; a’r hwn y barno’r swyddogion yn ei erbyn, taled i’w gymydog yn ddwbl. 10Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymydog i gadw, a marw ohono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled: 11Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at dda ei gymydog; a chymered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn. 12#Gen 31:39Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog. 13Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.
14Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a’i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef; gan dalu taled. 15Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.
16 # Deut 22:28 Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyda hi; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun. 17Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo #22:17 Heb. pwysed.taled arian yn ôl gwaddol morynion.
18 # Lef 19:26, 31; 20:27; Deut 18:10, 11; 1 Sam 28:9 Na chaffed hudoles fyw.
19 # Lef 18:23; 20:15 Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail.
20 # Deut 13:6, 13, &c; 17:2 Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.
21 # Pen 23:9 ; Lef 19:33; 25:35Na orthryma, ac na flina y dieithr: canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft.
22 # Deut 10:18; 24:17; 27:19; Esa 1:17; Sech 7:10; Iago 1:27 Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad. 23Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt; 24A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd #Salm 109:9eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.
25 # Lef 25:35, 36, 37; Deut 23:19; Neh 5:7; Salm 15:5; Esec 18:8, 17 Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt. 26#Deut 24:6, 10, 13; Job 24:3, 9; Diar 20:16; 22:27; Amos 2:8Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul: 27Oherwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.
28 # Preg 10:20; Act 23:5; Jwdas 8 Na chabla’r #22:28 duwiau.swyddogion; ac na felltithia bennaeth dy bobl.
29Nac oeda dalu #22:29 Heb. dy gyflawnder.y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed, ac o’th #22:29 Heb. ddagrau.bethau gwlybion: dod i mi #Pen 13:2, 12; 34:19; Deut 15:19y cyntaf‐anedig o’th feibion. 30Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; #Lef 22:27saith niwrnod y bydd gyda’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.
31A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: #Lef 22:8; Esec 44:31ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i’r ci.

Dewis Presennol:

Exodus 22: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda