Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 21

21
1 Cyfreithiau gweision. 5 Am y gwas a dyller ei glust. 7 Am forwynion. 12 Am lofruddiaeth. 16 Am ladron dynion. 17 Am y rhai a felltithio eu rhieni. 18 Am darawyr. 22 Am friw damwain. 28 Am ych a gornio. 33 Am yr hwn a fo achos o niwed i eraill.
1Dyma y barnedigaethau a #Pen 24:3, 4osodi di ger eu bron hwynt. 2#Lef 25:39; Deut 15:12; Jer 34:14Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a’r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd. 3Os #21:3 Heb. â’i gorff.ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gydag ef. 4Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a’i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun. 5#Deut 15:16Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a’m plant; nid af fi allan yn rhydd: 6Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddôr, neu at yr #21:6 Neu, ystlysbost.orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a’i gwasanaetha ef byth.
7Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan. 8Os #21:8 Heb. drwg fydd hi.heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a’i cymerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi. 9Ac os i’w fab y dyweddïodd efe hi, gwnaed iddi yn ôl deddf y merched. 10Ac os arall a brioda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na’i dyled priodas. 11Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.
12Rhodder i farwolaeth #Gen 9:6; Lef 24:17; Mat 26:52y neb a drawo ŵr, fel y byddo marw. 13Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef, #Num 35:11; Deut 19:3; Jos 20:2mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi. 14Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog, i’w ladd ef trwy dwyll; #1 Bren 2:28; 2 Bren 11:15cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.
15Y neb a drawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.
16 # Deut 24:7 Yr hwn a ladratao ddyn, ac a’i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.
17 # Lef 20:9; Diar 20:20; Mat 15:4; Marc 7:10 Rhodder i farwolaeth yr hwn a #21:17 Neu, gabla.felltithio ei dad, neu ei fam.
18A phan ymrysono dynion, a tharo o’r naill #21:18 Neu, ei gymydog.y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd; 19Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y trawydd a fydd dihangol: yn unig rhodded ei golled am ei #21:19 Heb. orffwys.waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.
20Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaethferch, â gwialen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddial dialer arno. 21Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno; canys #Lef 25:26gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.
22Ac os ymrafaelia dynion, a tharo ohonynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gosbi cosber ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr. 23Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes, 24#Lef 24:20; Deut 19:21; Mat 5:38Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed, 25Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.
26Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaethferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad: 27Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaethferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.
28Ac os ych a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw: #Gen 9:5gan labyddio llabyddier yr ych, ac na fwytaer ei gig ef; ac aed perchen yr ych yn rhydd. 29Ond os yr ych oedd yn cornio o’r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i’w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd ohono ŵr neu wraig: yr ych a labyddir, a’i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd. 30Os iawn a roddir arno, rhodded #Num 35:31werth am ei einioes, yn ôl yr hyn oll a osoder arno. 31Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon. 32Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych; rhodded i’w perchennog #Edrych Mat 26:15; Phil 2:7ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ych.
33Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ych, neu asyn; 34Perchen y pydew a dâl amdanynt: arian a dâl efe i’w perchennog; a’r anifail marw a fydd #21:34 Neu, yn eiddo yntau.iddo yntau.
35Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ych byw, a rhannant ei werth ef, a’r ych marw a rannant hefyd. 36Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o’r blaen, a’i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ych am ych, a bydded y marw #21:36 Heb. iddo ef.yn eiddo ef.

Dewis Presennol:

Exodus 21: BWM1955C

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda