Deuteronomium 29
29
1 Moses yn annog y bobl i ufudd‐dod, trwy gofio y gweithredoedd a welsent. 10 Gosod pawb ger bron yr Arglwydd, i fyned dan ei gyfamod ef. 18 Y mawr ddigofaint ar y neb a ymfendithio yn ei anwiredd. 29 I Dduw y perthyn pethau dirgel.
1Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw #Pen 5:2, 3y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb.
2A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, #Exod 19:4Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir; 3#Pen 4:34; 7:19Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny: 4Ond #Edrych Esa 63:17; Ioan 8:43; Eff 4:18; 2 Thess 2:11, 12ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn. 5Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: #Pen 8:4ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed. 6Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 7A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan #Num 21:23, 33; Pen 2:32; 3:1Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i’n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a’u lladdasom hwynt: 8Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac #Num 32:33; Pen 3:12, 13a’i rhoesom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse. 9#Pen 4:6; Jos 1:7; 1 Bren 2:3Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.
10Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd eich Duw; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a’ch swyddogion, a holl wŷr Israel, 11Eich plant, eich gwragedd, a’th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o #Edrych Jos 9:21, 23, 27gymynydd dy goed hyd #29:11 dynnwr.wehynnydd dy ddwfr: 12I fyned ohonot dan gyfamod yr Arglwydd dy Dduw, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddiw: 13I’th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn Dduw i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob. 14Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a’r cynghrair yma; 15Ond â’r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw, ac #Edrych Act 2:39; 1 Cor 7:14â’r hwn nid yw yma gyda ni heddiw: 16(Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt; 17A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a’u #29:17 Heb. tomdduwiau.heilun‐dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:) 18Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; #Heb 12:15rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn #29:18 Heb. gwenwynllys, neu, bustl. Heb. rosh.gwenwyn a wermod: 19A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio #Num 15:39yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu #29:19 Heb. y meddw at y sychedig.meddwdod at syched: 20#Esec 14:7, 8Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a’i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a’r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r Arglwydd #Pen 9:14a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd. 21A’r Arglwydd #Mat 24:51a’i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon. 22A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a’i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi; 23A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo, #Gen 19:24, 25fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a’i ddigofaint: 24Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant, #1 Bren 9:8; Jer 22:8Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn? 25Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft. 26Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni #29:26 Heb. ranasai, neu, yr hwn ni roesai iddynt ran.roddasai efe iddynt. 27Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. 28A’r Arglwydd a’u dinistriodd hwynt o’u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw. 29Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 29: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society