Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 30

30
1 Addo trugareddau mawr i’r edifeiriol. 11 Bod y gorchymyn yn eglur. 15 Gosod angau ac einioes o flaen y bobl.
1A #Lef 26:40phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felltith, y rhai a roddais o’th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di atynt; 2A dychwelyd ohonot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a’th blant, â’th holl galon, ac â’th holl enaid: 3#Salm 106:45; 126:1; Jer 32:37Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac #Salm 147:2a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di. 4#Neh 1:9Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y’th gasglai yr Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno y’th gymerai. 5A’r Arglwydd dy Dduw a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a’i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a’th wna yn amlach na’th dadau. 6A’r #Pen 10:16; Jer 32:39; Esec 11:19; 36:26 Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw. 7A’r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a’th erlidiant di. 8Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw. 9#Pen 28:11A’r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr Arglwydd i #Jer 32:41lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau; 10Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid.
11Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, #Esa 45:19nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell. 12#Rhuf 10:6 &cNid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac a’i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef? 13Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac a’i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef? 14Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i’w wneuthur ef.
15Wele, #ad. 19; Pen 11:26rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni: 16Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y’th amlhaer, ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. 17Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt; 18Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi. 19#Pen 4:26Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear, #ad. 15roddi ohonof o’th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had; 20I garu ohonot yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda