Deuteronomium 21
21
1 Y modd i ymddiheuro oddi wrth lofruddiaeth, heb wybod pwy a’i gwnaeth. 10 Y modd y mae trin caethferch a briodo un. 15 Na ddylid dietifeddu y cyntaf‐anedig o ran cas. 18 Rhaid yw llabyddio mab anufudd. 22 Na adawer drwg‐weithredwr ynghrog dros nos.
1Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a’i lladdodd; 2Yna aed dy henuriaid a’th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i’r lladdedig. 3A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno, gymryd anner o’r gwartheg, yr hon ni weithiwyd â hi, ac ni thynnodd dan iau. 4A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni heuwyd ynddo; ac yno #21:4 torrant ben.torfynyglant yr anner yn y dyffryn. 5A nesaed yr offeiriaid, meibion Lefi, (oherwydd yr Arglwydd dy Dduw #Pen 10:8a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr Arglwydd,) ac #Pen 17:8, 9wrth eu #21:5 Heb. genau.barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla. 6A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, #Edrych Salm 19:12; Mat 27:24a olchant eu dwylo uwchben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn. 7A hwy a atebant ac a ddywedant, Ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn, ac nis gwelodd ein llygaid. 8Trugarha wrth dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O Arglwydd, ac na ddyro waed gwirion #21:8 Heb. yng nghanol.yn erbyn dy bobl Israel. A maddeuir y gwaed iddynt hwy. 9Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o’th fysg, os ti a wnei yr uniawnder yng ngolwg yr Arglwydd.
10Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di, a chaethgludo ohonot gaethglud ohonynt; 11A gweled ohonot yn y gaethglud wraig brydweddol, a’i bod wrth dy fodd, i’w chymryd i ti yn wraig: 12Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a #21:12 Heb. gwnaed, neu, gyweiried.thorred ei hewinedd; 13A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani, a thriged yn dy dŷ di, ac #Edrych Salm 45:10wyled am ei thad a’i mam fis o ddyddiau: ac wedi hynny yr ei di ati, ac y byddi ŵr iddi, a hithau fydd wraig i ti. 14Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw ohoni, am i ti ei darostwng hi.
15Pan fyddo i ŵr ddwy wraig, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o’r gu a’r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf‐anedig o’r un gas: 16Yna bydded, #2 Cron 11:19, 22yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf‐anedig; 17Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe, #Edrych 1 Cron 5:1gan roddi iddo ef y ddeuparth o’r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw #Gen 49:3dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig.
18 Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt: 19Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan; 20A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe. 21Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: #Pen 13:5; 22:21, 24felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.
22Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a’i farwolaethu a chrogi ohonot ef wrth bren; 23#Jos 10:26Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw: oherwydd #Gal 3:13melltith Dduw #21:23 Neu, yw yr hwn. Edrych Num 25:4; Jos 10:26; 2 Sam 21:6 sydd i’r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.
Dewis Presennol:
Deuteronomium 21: BWM1955C
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society