Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 20

20
1 Araith yr offeiriaid i annog y bobl i ryfel. 5 Cyhoeddiad y swyddogion pwy sydd i’w gollwng adref o’r rhyfel. 10 Pa beth a wneir i’r dinasoedd a dderbyniant neu a wrthodant amodau heddwch. 16 Pa ddinasoedd sydd raid eu haddunedu. 19 Ni wasanaetha dinistrio prennau ymborth dyn, wrth warchae ar ddinas.
1Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled #Edrych Salm 20:7; Esa 31:1meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, yr hwn a’th ddug di i fyny o dir yr Aifft. 2A bydd, pan nesaoch i’r frwydr, yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl, 3A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na #20:3 Heb. phrysurwch.synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt. 4Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyda chwi, i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.
5A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis #Edrych Neh 12:27; Salm 30 titlcysegrodd ef? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef. 6A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis #20:6 Heb. cyffredinodd. Edrych Lef 19:23, 24; Pen 28:30mwynhaodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi. 7#Pen 24:5A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi. 8Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, #Barn 7:3Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na #20:8 Heb. thoddo.lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau. 9A bydded, pan ddarffo i’r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.
10Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, #2 Sam 20:18cyhoedda iddi heddwch. 11A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu. 12Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi. 13Pan roddo yr Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di, #Num 31:7taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf. 14Yn unig y benywaid, a’r plant, a’r #Jos 8:2anifeiliaid, a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 15Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn. 16Ond #Num 33:52; Pen 7:1, 2o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw: 17Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 18Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd‐dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw.
19Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd #20:19 Neu, o ddyn, pren y maes sydd i’w osod &c bywyd dyn yw pren y maes,) #20:19 Heb. i fyned o’th flaen.i’w gosod yn y gwarchglawdd. 20Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni #20:20 ymddarostyngo.orchfyger hi.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda