Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 19

19
1 Dinasoedd noddfa; 4 a braint llofrudd ynddynt. 14 Na symuder terfyn tir. 15 Rhaid yw bod dau o dystion o’r lleiaf. 19 Cosbedigaeth gau dyst.
1Pan #Pen 12:29dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti, a’i #19:1 Neu, etifeddu.feddiannu ohonot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai; 2#Exod 21:13; Num 35:10; Jos 20:2Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu. 3Paratoa ffordd i ti, a thraeana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.
4 # Pen 4:42 Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau heb ei gasáu ef #19:4 Heb. er doe ac echdoe.o’r blaen; 5Megis pan elo un gyda’i gymydog i’r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law â’r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn #19:5 Heb. oddi ar y pren, a chaffael &co’r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn, a byw: 6#Num 35:12Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a’i galon yn llidiog, a’i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a’i daro ef yn #19:6 Heb. yn ei einioes.farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef #19:6 Heb. er doe ac echdoe.o’r blaen. 7Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilltui i ti. 8A phan #Gen 15:18; Pen 12:20helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau; 9Os cedwi y gorchmynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw, i garu yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; #Jos 20:7yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn: 10Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i’th erbyn.
11Ond #Exod 21:12 &c; Num 35:16, 24; Pen 27:24os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a’i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o’r dinasoedd hyn: 12Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw. 13Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.
14 # Pen 27:17 ; Diar 22:28; Hos 5:10Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen, o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu.
15 # Num 35:30; Pen 17:6 ; Mat 18:16; Ioan 8:17; 2 Cor 13:1; Heb 10:28Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o’r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.
16Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef; 17Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr Arglwydd, #Pen 17:9o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny. 18Ac ymofynned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd; 19#Diar 19:5, 9; Dan 6:24Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd: #Pen 13:5; 17:7; 22:21, 24a thyn ymaith y drwg o’th fysg. 20A’r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith. 21Ac nac arbeded dy lygad: bydded #Exod 21:23; Lef 24:20; Mat 5:38einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda