Ond wedyn, sut mae disgwyl i bobl alw arno os ydyn nhw ddim wedi credu ynddo? A sut maen nhw’n mynd i gredu ynddo heb glywed amdano? Sut maen nhw’n mynd i glywed os ydy rhywun ddim yn dweud wrthyn nhw? A phwy sy’n mynd i ddweud wrthyn nhw heb gael ei anfon? Dyna mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei olygu wrth ddweud: “Mae mor wych fod y rhai sy’n cyhoeddi’r newyddion da yn dod!” Ond dydy pawb ddim wedi derbyn y newyddion da. Fel mae’r proffwyd Eseia’n dweud, “Arglwydd, pwy sydd wedi credu ein neges ni?” Mae’n rhaid clywed cyn gallu credu – clywed rhywun yn rhannu’r newyddion da am y Meseia.
Darllen Rhufeiniaid 10
Gwranda ar Rhufeiniaid 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Rhufeiniaid 10:14-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos