Dw i’n gobeithio dod i dy weld di’n fuan. Ond dw i’n ysgrifennu atat ti rhag ofn i mi gael fy rhwystro, er mwyn i ti wybod sut dylai’r bobl sy’n perthyn i deulu Duw ymddwyn. Dyma eglwys y Duw byw, sy’n cynnal y gwirionedd fel mae sylfaen a thrawst yn dal tŷ gyda’i gilydd. Heb unrhyw amheuaeth, mae beth sydd wedi’i ddangos i fod yn wir am ein ffydd ni yn rhyfeddol: Daeth i’r golwg fel person o gig a gwaed; Cyhoeddodd yr Ysbryd Glân ei fod yn gyfiawn. Cafodd ei weld yn fyw gan angylion; Cafodd y newyddion da amdano ei gyhoeddi i’r cenhedloedd, a chredodd llawer o bobl y byd ynddo. Cafodd ei gymryd i fyny i ysblander y nefoedd.
Darllen 1 Timotheus 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: 1 Timotheus 3:14-16
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos