Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Timotheus 3

3
Arweinwyr a gwasanaethwyr
(Titus 1:6-9)
1Mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir: Mae rhywun sydd ag uchelgais i fod yn arweinydd yn yr eglwys yn awyddus i wneud gwaith da. 2Felly rhaid i arweinydd fod yn ddi-fai. Dylen nhw fod yn ffyddlon i’w priod#3:2 yn ffyddlon i’w priod: Groeg, yn ŵr un wraig. Gall y geiriad Groeg gynnwys y syniad o ‘wraig un gwr’ hefyd., yn ymddwyn yn gyfrifol, yn synhwyrol ac yn gall, yn groesawgar, yn gallu dysgu eraill, 3ddim yn meddwi, ddim yn ymosodol ond yn addfwyn, ddim yn achosi dadleuon, a ddim yn ariangar. 4Dylen nhw allu cadw trefn ar eu teulu eu hunain, a’u plant yn atebol iddyn nhw ac yn eu parchu. 5(Os ydyn nhw ddim yn gallu cadw trefn ar eu teulu eu hunain, sut mae disgwyl iddyn nhw ofalu am eglwys Dduw?) 6Dylen nhw ddim bod yn rhywun sydd newydd ddod yn Gristion, rhag iddyn nhw droi’n falch a chael eu barnu fel cafodd y diafol ei farnu. 7Dylen nhw hefyd fod ag enw da gan bobl y tu allan i’r eglwys, rhag iddyn nhw gael eu dal ym magl y diafol a chael eu cywilyddio.
8A’r rhai sy’n gwasanaethu’r tlawd ar ran yr eglwys yr un fath. Rhaid iddyn nhw fod yn bobl sy’n haeddu eu parchu, ddim yn ddauwynebog, ddim yn yfed yn ormodol, nac yn elwa ar draul pobl eraill. 9Rhaid iddyn nhw ddal gafael yn beth mae Duw wedi’i ddangos sy’n wir, a byw gyda chydwybod lân. 10Dylen nhw dreulio cyfnod ar brawf cyn cael eu penodi i wasanaethu. Wedyn byddan nhw’n gallu cael eu penodi os does dim rheswm i beidio gwneud hynny.
11A’r un fath gyda’r gwragedd hynny sy’n gwasanaethu. Dylen nhw fod yn wragedd sy’n cael eu parchu; ddim yn rhai sy’n hel clecs maleisus, ond yn wragedd cyfrifol ac yn rai dŷn ni’n gallu dibynnu’n llwyr arnyn nhw.
12Dylai unrhyw ddyn sy’n gwasanaethu’r tlawd ar ran yr eglwys fod yn ffyddlon i’w wraig, ac yn gallu cadw trefn ar ei blant ac ar ei gartref. 13Bydd y rhai sydd wedi gwasanaethu’n dda yn cael enw da ac yn gallu siarad yn hyderus am gredu yn y Meseia Iesu.
14Dw i’n gobeithio dod i dy weld di’n fuan. Ond dw i’n ysgrifennu atat ti rhag ofn i mi gael fy rhwystro, 15er mwyn i ti wybod sut dylai’r bobl sy’n perthyn i deulu Duw ymddwyn. Dyma eglwys y Duw byw, sy’n cynnal y gwirionedd fel mae sylfaen a thrawst yn dal tŷ gyda’i gilydd. 16Heb unrhyw amheuaeth, mae beth sydd wedi’i ddangos i fod yn wir am ein ffydd ni yn rhyfeddol:
Daeth i’r golwg fel person o gig a gwaed;
Cyhoeddodd yr Ysbryd Glân ei fod yn gyfiawn.
Cafodd ei weld yn fyw gan angylion;
Cafodd y newyddion da amdano ei gyhoeddi i’r cenhedloedd,
a chredodd llawer o bobl y byd ynddo.
Cafodd ei gymryd i fyny i ysblander y nefoedd.

Dewis Presennol:

1 Timotheus 3: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd