Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Timotheus 2

2
Addoliad Cywir
1Felly, o flaen popeth arall dw i’n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo’n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. 2Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus. 3Mae gweddïo felly yn beth da i’w wneud, ac yn plesio Duw sydd wedi’n hachub ni. 4Achos mae e am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwir. 5Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy’n gallu pontio’r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu y Meseia ydy hwnnw, ac roedd e’n ddyn. 6Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu’r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn. 7A dyma pam ces i fy newis yn negesydd ac yn gynrychiolydd personol iddo, i ddysgu pobl o genhedloedd eraill am beth sy’n wir, a’r angen i gredu yn Iesu Grist. A’r gwir dw i’n ei gyhoeddi, heb air o gelwydd!
8Felly, ble bynnag mae pobl yn cyfarfod i addoli, dw i am i’r dynion sy’n gweddïo fyw bywydau sy’n dda yng ngolwg Duw, a pheidio gwylltio a dadlau.
9A gwragedd yr un fath. Dylen nhw beidio gwisgo dillad i dynnu sylw atyn nhw eu hunain, dim ond dillad sy’n weddus, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Dim steil gwallt a thlysau aur a pherlau a dillad costus sy’n bwysig, 10ond gwneud daioni. Dyna sy’n gwneud gwragedd sy’n proffesu eu bod yn addoli Duw yn ddeniadol.
11Rhaid i wraig, wrth gael ei dysgu, fod yn dawel a dangos ei bod yn barod i ymostwng yn llwyr. 12Dw i ddim am ganiatáu i wraig hyfforddi a bod fel teyrn dros ddyn; rhaid iddi ddysgu yn dawel. 13Adda gafodd ei greu gyntaf, ac wedyn Efa.#gw. Genesis 2:7,21-22 14A dim Adda gafodd ei dwyllo; y wraig oedd yr un gafodd ei thwyllo, a throseddu.#gw. Genesis 3:1-6 15Ond bydd hi’n cael ei hachub wrth roi genedigaeth#2:15 neu, drwy’r plentyn oedd i’w eni. Dylen nhw ddal ati i gredu, dangos cariad, byw bywydau glân a bod yn ddoeth.

Dewis Presennol:

1 Timotheus 2: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd