Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 7

7
1-14Yna y dywedodd yr archoffeiriad, Ai fel hyn yn wir y mae y pethau hyn? Yntau á ddywedodd, Frodyr a thadau, gwrandewch: Duw y gogoniant á ymddangosodd i’n tad Abraham, pan oedd efe yn Mesopotamia, cyn trigo o hono yn Charran; ac á ddywedodd wrtho, “Dos allan o’th wlad ac oddwrth dy dylwyth; a dyred i dir à ddangoswyf fi i ti.” Yna gwedi iddo ymadael o dir y Caldeaid, efe á breswyliodd yn Charran: ac oddyno, gwedi marw ei dad, efe á wnaeth iddo symud i’r tir yma, yn yr hwn yr ydych chwi yn awr yn preswylio. A ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, naddo led troed: èr hyny efe á addawodd ei roddi yn feddiant iddo, sef iddei had àr ei ol ef, pryd nad oedd plentyn iddo. A Duw á lefarodd fel hyn, – y byddai iddei had ef “fod yn ymdeithydd mewn gwlad ddyeithr, ac y byddai iddynt ei gaethiwo a’i ddrygu bedwar cann mlynedd. A’r genedl yr hon á wasanaethant hwy, (meddai Duw,) á farnaf fi; a gwedi hyny y deuant allan, ac á’m gwasanaethant i yn y lle hwn.” Ac efe á roddes iddo sefydliad yr enwaediad; a felly efe á genedlodd Isaac, ac á enwaedodd arno yr wythfed dydd; ac Isaac á genedlodd Iacob, a Iacob á genedlodd y deg a dau brifdad. A’r prifdadau, gàn genfigenu, á werthasant Ioseph i’r Aifft: èr hyny yr oedd Duw gydag ef, ac á’i gwaredodd ef o’i holl drallodion, ac á roes iddo radgarwch a doethineb yn ngolwg Pharao, brenin yr Aifft; ac efe á’i gosododd ef yn llywodraethwr àr yr Aifft, ac àr ei holl dŷ. A daeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a thrallod mawr; a’n tadau ni chawsant luniaeth. Ond pan glybu Iacob bod ŷd yn yr Aifft, efe á ddanfonodd ein tadau ni yn gyntaf; a’r ail waith yr adnabuwyd Ioseph gàn ei frodyr; a theulu Ioseph á wnaed yn hysbys i Pharao. A Ioseph á ddanfonodd, ac á wahoddodd ei dad Iacob, a’i holl genedl, yn cyrhaedd i bymtheg enaid a thriugain.
15-36Felly yr aeth Iacob i waered i’r Aifft, ac á fu farw, efe á’n tadau ni, a hwy á symudwyd i Sychem, ac á ddodwyd yn y beddrawd à brynodd Abraham, am sum o arian, gàn feibion Emmor, tad Sychem. A fel yr oedd amser yr addewid yn nesâu, yr hon á dyngasai Duw i Abraham, y bobl á gynnyddodd, ac á liosogodd yn yr Aifft; hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Ioseph. Hwn wedi llunio amcanion dichellgar yn erbyn ein cenedl ni, á ddrygodd ein tadau ni, drwy beri iddynt fwrw allan eu babanod, fel y darfyddai eu hiliogaeth. Ar yr hwn amser y ganwyd Moses, ac yr oedd efe yn dlws iawn; ac efe á fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad: a gwedi ei fwrw ef allan, merch Pharao á’i cymerodd ef i fyny, ac á’i magodd yn fab iddi ei hun: a Moses á ddygwyd i fyny yn holl ddoethineb yr Aifftiaid; ac yr oedd efe yn alluog yn ei ymadroddion a’i weithredoedd. A gwedi iddo gyrhaedd ei lawn ddeugeinmlwydd oed, daeth iddei galon ymweled â’i frodyr, plant Israel. A phan welodd efe un o honynt yn cael cam, efe á’i hamddiffynodd ef; a chàn daro yr Aifftwr, efe á ddialodd gam yr hwn à orthrymid. Ac efe á dybiodd y deallasai ei frodyr y rhoddai Duw iddynt achubiaeth drwy ei law ef: ond hwy ni ddeallasant. A’r dydd nesaf efe á ymddangosodd iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac á fỳnasai eu darbwyllo hwynt i heddychu, gàn ddywedyd, Ddynion, brodyr ydych chwi, paham y gwnewch gam â’ch gilydd? Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â’i gymydog, á’i cilgwthiodd ef, gàn dywedyd, Pwy á’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr arnom ni? A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Aifftwr ddoe? Yna Moses á ffoes àr y gair hwn, ac á aeth yn ymdeithydd yn nhir Midian; lle y cenedlodd efe ddau o feibion. A gwedi cyflawni deugain mlynedd, yr ymddangosodd iddo, yn anialwch Mynydd Sinai, angel i’r Arglwydd, mewn fflam dan mewn perth. A Moses pan ganfu á fu ryfedd ganddo y weledigaeth: a fel yr oedd efe yn nesu i edrych arni, daeth llef yr Arglwydd ato, gàn ddywedyd, “Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob.” A Moses á aeth yn ddychrynedig, a ni feiddiodd edrych arni. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Dattod dy esgidiau oddam dy draed; canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo, sy dir santaidd. Myfi á welais yn ddiau ddrygfyd fy mhobl, y rhai sydd yn yr Aifft, a mi á glywais eu gruddfan, a mi á ddisgynais iddeu gwaredu hwynt: ac yn awr dyred, mi á’th anfonaf di i’r Aifft.” Y Moses yma, yr hwn á wrthodasant hwy, gàn ddywedyd, Pwy á’th osododd di yn llywodraethwr ac yn farnwr? á ddanfonodd Duw yn llywydd ac yn waredwr, drwy law yr angel, yr hwn á ymddangosodd iddo yn y berth. Hwn á’u harweiniodd hwynt allan, gàn wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion yn nhir yr Aifft, ac yn y Mor Coch, ac yn y diffeithwch, ddeugain mlynedd.
37-50Dyma y Moses hwnw à ddywedodd i feibion Israel, “Proffwyd, fel myfi, á gyfyd yr Arglwydd Dduw i chwi o blith eich brodyr; arno ef y gwrandewch.” Hwn yw efe à fu yn y gynnulleidfa yn y diffeithwch, gyda ’r angel à ymddyddanodd ag ef àr fynydd Sinai; ac â’n tadau ni, yr hwn á dderbyniodd yr oraglau bywiol, iddeu rhoddi i ni. Yr hwn ni fynai ein tadau fod yn ufydd iddo; eithr cilgwthiasant ef, ac yn eu calonau á droisant yn ol drachefn i’r Aifft; gàn ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i’n blaenori; oblegid am y Moses yma, yr hwn á’n dyg ni i fyny allan o dir yr Aifft, ni wyddom ni beth á ddaeth o hono. A hwy á wnaethant lo yn y dyddiau hyny, ac á offrymasant aberth i’r eilun, ac á ymlawenâasant yn ngweithredoedd eu dwylaw eu hunain. Felly y troes Duw, ac â’u rhoddes hwy i fyny i addoli llu y nef; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y proffwydi, “O dŷ Israel, á offrymasoch i mi laddedigion ac aberthau ddeugain mlynedd yn yr anialwch? Ac àr ol hyny y cymerasoch i fyny babell Moloch, a seren eich duw Remphan, lluniau à wnaethoch iddeu haddoli; ac, am hyny, mi á’ch symudaf chwi tuhwnt i Fabilon.” Pabell y dystiolaeth oedd gyda ’n tadau yn yr anialwch, megys y trefnasai yr hwn à ddywedai wrth Foses, am ei gwneuthur yn ol y cynllun à welsai: yr hon hefyd y darfu i’n tadau ni gwedi ei derbyn, ei dwyn i fewn gydag Iosuwa i berchenogaeth y cenedloedd; y rhai á ỳrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd; yr hwn á gafodd radgarwch gèr bron Duw, ac á ddeisyfodd gael preswylfod i Dduw Iacob. Eithr Solomon á adeiladodd dŷ iddo ef. Er hyny nid yw y Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylaw: megys y dywed y proffwyd, “Y nef yw fy ngorsedd, a’r ddaiar yw fy nhroedfainc; pa dŷ á adeiledwch i mi? medd yr Arglwydd; neu, pa beth yw lle fy ngorphwysfa? Onid fy llaw i á wnaeth y pethau hyn oll?”
51-60O! rai gwargaled, a dienwaededig o galon ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu yr Ysbryd Glan; fel eich tadau, felly chwithau. Pa un o’r proffwydi ni ddarfu i’ch tadau chwi ei erlid? do, hwy á laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn hwnw, i’r hwn yr awrhon yr aethoch chwi yn fradwyr a llofruddion. Y rhai á dderbyniasoch y gyfraith drwy restrau o gènadon, a nis cadwasoch hi. A gwedi iddynt glywed y pethau hyn, hwy á ffromasant yn eu calonau, ac á ysgyrnygasant ddannedd arno. Ac efe yn gyflawn o’r Ysbryd Glan, á edrychodd yn ddyfal tua ’r nef; ac á welodd ogoniant Duw, ac Iesu yn sefyll àr ddeheulaw Duw. Ac efe á ddywedodd, Wele, mi á welaf y nefoedd yn agored, a Mab y Dyn yn sefyll àr ddeheulaw Duw. Hwythau gàn waeddi â llef uchel, á gauasant eu clustiau, ac á ruthrasant yn unfryd arno. A gwedi iddynt ei fwrw ef allan o’r ddinas hwy á’i llabyddiasant: a’r tystion á ddodasant eu dillad wrth draed dyn ieuanc, à elwid Saul. A hwy á labyddiasant Stephan, yn aralw ac yn dywedyd, Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd. A gwedi gostwng àr ei liniau efe á lefodd â llef uchel, O Arglwydd, na ddod y pechod hwn yn eu herbyn. A gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á hunodd.

Dewis Presennol:

Gweithredoedd 7: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda