Gweithredoedd 6
6
DOSBARTH V.
Gosod Saith o Ddynion i ofalu am Dylodion y Gynnulleidfa yn Nghaersalem, a Merthyrdawd Stephan.
1-7Ac yn y dyddiau hyn, a’r dysgyblion yn amlâu, bu grwgnach gàn yr #6:1 h. y. Iuddewon yn arfer yr iaith Roeg.Hèleniaid yn erbyn yr Hebreaid, am esgeuluso eu gwragedd gweddwon hwy yn y gweinyddiad peunyddiol. A’r deuarddeg, wedi galw yn nghyd y lliaws dysgyblion, á ddywedasant, Nid yw gymesur i ni adael gair Duw i wasanaethu byrddau; am hyny, frodyr, edrychwch yn eich plith eich hunain am seithwyr da eu gair, yn llawn ysbryd a doethineb, y rhai á osodom àr hyn o orchwyl; ond nyni á ddyfalbarâwn mewn gweddi, ac yn ngweinidogaeth y gair. A boddlawn fu yr ymadrodd gàn yr holl liaws, a hwy á etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glan, a Phylip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicholas, troedigyn o Antiochia; y rhai á osodasant hwy gèr bron yr Apostolion; a hwythau, gwedi gweddio, á osodasant ddwylaw arnynt hwy. A gair Duw á gynnyddodd; a rhifedi y dysgyblion yn Nghaersalem á amlàodd yn ddirfawr; a lliaws mawr o’r offeiriaid á ufyddâasant i’r ffydd.
8-15A Stephan, yn llawn #6:8 Gras.rhadineb a nerth, á wnaeth wyrthiau lawer, ac arwyddion mawrion yn mhlith y bobl. Yna y cyfododd rhai o’r gynnullfa à elwir eiddo y Libertiniaid, a’r Cyreniaid, a’r Alecsandriaid, ac o’r rhai o Gilicia ac Asia, gàn ymddadleu â Stephan. A ni allent wrthsefyll y doethineb a’r ysbryd, drwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru. Yna tystlogi dynion á wnaethant i ddywedyd, Nyni á’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cableddus yn erbyn Moses, ac yn erbyn Duw. A hwy á gynhyrfasant y bobl, a’r henuriaid, a’r ysgrifenyddion, a chàn ymosod arno ef, hwy á’i llusgasant ymaith gyda hwynt, ac á’i dygasant i’r Sanhedrim. A hwy á osodasant eudystion, y rhai á ddywedasant, Y mae y dyn yma yn dywedyd yn ddibaid yn erbyn y lle santaidd hwn, a’r gyfraith: canys nyni á’i clywsom ef yn dywedyd y dystrywiai yr Iesu hwn o Nasareth y lle yma, ac y newidiai efe ei ddefodau, y rhai á draddododd Moses i ni. A’r rhai oll à eisteddent yn y Sanhedrim, yn dal eu golwg arno, á welent ei wyneb ef fel wyneb angel.
Dewis Presennol:
Gweithredoedd 6: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.