Iago 1
1
PEN. I.
1Iago, gwas#1:1 Y swydd o fod yn was a feddylir, ac nid y gwaith o wasanaethu. Gwas oedd fel apostol neu genad, wedi ei ddanfon i bregethu’r efengyl. Attodiad AGeilw Paul ei hun yn “was Iesu Grist,” Rhuf. 1:1; yn “apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw,” 1 Cor. 1:1; 2 Cor. 1:1; yn “apostol — trwy Iesu Grist a Duw Dad,” Gal. 1:1; yn “apostol Iesu Grist yn ol gorchymyn Duw,” 1 Tim. 1:1; “was Duw ac apostol Iesu Grist,” Tit. 1:1 Geilw Pedr ei hun yn “apostol Iesu,” 1 Pedr 1:1; yn “was ac yn apostol Iesu Grist,” 2 Pedr 1:1 Nid arfer Ioan ond y gair “henuriad.” Iudas a eilw ei hun yn “was Iesu Grist.” Ond geilw Iago ei hun yn “was Duw a’r Arglwydd Iesu Grist.” Er yr amrywiaethau hyn, yr un peth a feddylir, sef y cyfrifai’r apostolion eu hunain yn weision Crist yn ol ewyllys a gorchymyn Duw. Tebyg y galwasai Iago ei hun yn “was Duw” yn ogystal a “gwas Iesu Grist,” o herwydd yr Iuddewon annychweledig. Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth ydynt ar wasgar, yn danfon anerch.
2Cyfrifwch hi yn bob#1:2 Llawn neu gyflawn. llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch i amryw o brofedigaethau: 3gan wybod y gweithia profiad o’ch ffydd amynedd; 4ond caffed amynedd ei chyflawn waith,#1:4 Sef, fel y byddai amynedd, neu ddyoddefgarwch, nid mewn rhan, ond yn gyfangwbl. fel y byddoch yn gyflawn ac yn gyfanol,#1:4 “Cyflawn” yw un mewn llawn oed, yn ei lawn faintioli; a “chyfanol” yw bod heb wallau, neu anaf, neu ddiffyg. Mynai iddynt fod yn gristionogion llawn oed, ac yn feddiannol o bob rhan o dduwioldeb, fel dynion wedi tyfu i fyny, ac heb un gwall nac anaf arnynt. heb ddiffygio mewn dim. 5Ac os diffygiol yw neb o honoch o ddoethineb,#1:5 I wneuthur iawnddefnydd o’r profedigaethau, cystuddiau, ac erlidigaethau, fel y byddai iddynt weithredu neu ddangos cyflawn amynedd. ceisied gan Dduw, sydd yn rhoddi i bawb yn haelionus, ac heb ddannod, a rhoddir iddo; 6ond ceisied mewn ffydd, heb ammheu dim; canys tebyg yw’r hwn sy’n ammheu i dòn y môr, a ỳrir gan y gwynt ac a derfysgir. 7Na thybied y dyn hwnw y derbyn ddim gan yr Arglwydd: 8gŵr o feddwl dauddyblyg,#1:8 Yn llythyrenol, “gŵr o ddwy enaid,” heb benderfynu pa un a wnai oddef profedigaethau neu ymwrthod â chrefydd. ansefydlog yw yn ei holl ffyrdd.
9Gorfoledded hefyd#1:9 Dyma beth ag sydd yn achos arall o lawenydd neu orfoledd. Gwel adn. 2. y brawd o isel radd yn ei ddyrchafiad,#1:9 O fod yn gyfranog o freintiau yr efengyl. 10a’r cyfoethog yn ei iselhad;#1:10 Yn nghyfrif y byd; eto gorfoleddu a ddylai, gan y derfydd pethau’r byd yn fuan, a chaiff cyn hir “goron y bywyd.” o herwydd fel blodeuyn glaswellt y diflana; 11canys cyfyd yr haul gyda gwres, a gwywa y glaswellt, a’i flodeuyn a syrthia, a thegwch ei bryd a dderfydd; felly hefyd y diflana y cyfoethog yn ei ffyrdd. 12Dedwydd y gŵr#1:12 Y tlawd a’r cyfoethog; a chyfeiria yn neillduol at y diweddaf. a oddef brofedigaeth; o herwydd wedi ei brofi, derbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant.
13Na ddyweded y neb a hudir, #1:13 Attodiad Bhudir , neu dênir. Nid yw profi yn dynodi yr ystyr yma. Arferir y gair gwreiddiol am brofi trwy ofidiau, ac am brofi trwy ddeniadau i bechod: ond nid arwydda hyn yn y Gymraeg. Am hyny anghenrhaid yw defnyddio gair arall. — “Nid ellir hudo Duw â drygau,” yn llythyrenol, “Anhudadwy yw Duw gan ddrygau.” Gan na hudir Ef gan ddrygau, nid yw yn cydweddu â’i anian i hudo neb. “Gan Dduw yr hudir fi;” canys nid ellir hudo Duw â drygau, ac ni huda Efe neb. 14Ond pob un a hudir pan y tyner ef ymaith ac y llithier ef gan ei chwant ei hun.#1:14 Tynir dyn gyntaf ymaith oddiar y llwybr cywir, ac yna “llithir” ef, neu “bachir” ef. Y cyfeiriad sydd at ddal pysgod trwy guddio bach mewn abwyd. Ymddengys fel lluniaeth, ond cynnwys fach marwol: felly pob pechod. 15Yna chwant, gwedi ymddwyn, a genedla bechod; a phechod, pan orphener, a esgor ar farwolaeth. 16Na chyfeiliornwch#1:16 Neu, “Na thwyller chwi” (Luc 21:8), sef ynghylch Duw, ei fod yn hudo neb, gan mai rhoddion da a pherffaith yn unig a ddeuant oddiwrtho Ef. fy mrodyr anwyl; 17pob rhodd dda, a phob rhadrodd berffaith#1:17 “Perffaith” a “da,” yn ngwrthwyneb i bob peth amherffaith, drwg, a niweidiol. Attodiad Cpob rhodd dda a ddynoda roddion tymmorol; da ac nid drwg ydynt oll. Mae’r ddaear yn llawn o ddaioni yr Arglwydd. “Pob rhadrodd berffaith” ydynt roddion yr Iachawdwriaeth; perffaith yw y rhai’n oll heb gymysgedd o unrhyw ddiwyg, neu o wallau neu ddiffygion. Gelwir Duw yn “Dad y goleuadau,” yn llythyrenol, a gyfieithiwyd yn “Dad y goleuni,” yr hyn nid amlyga’r ystyr. Gwell yw “Tad pob goleuni.” Arwydda goleuni wybodaeth, sancteiddrwydd, llawenydd, a dedwyddwch. Ffynnonell y goleuadau hyn y gelwir Duw yma. Gan ei fod felly, nid all fod yn Dad unrhyw dywyllwch, naill o anwybodaeth, neu lygredd, neu dristwch, neu drueni, yr hyn a fuasai, pe buasai yn Dad, neu yn awdwr pechod. Chwanegir ei fod yn anghyfnewidiol, ac nad oes tebygolrwydd iddo droi oddiwrth yr hyn ag ydyw, neu yn llythyrenol, “arwasgodiad tröedigaeth.” Felly nid all Duw fod, ac ni bydd byth yn awdwr pechod. oddiuchod y mae, yn disgyn oddiwrth Dduw pob goleuni, yr hwn nid oes gydag ef gyfnewidiad na thebygolrwydd o newidio. 18O’i wir ewyllys#1:18 Neu, o’i fodd ei hun; yn llythyrenol, “Gan ewyllysio, cenedlodd ni.” Dyma brawf o’i “radrodd.” Cenedlodd hwynt “yn ôl bodlonrwydd ei ewyllys.” Eph. 1:5. y cenedlodd ni trwy air y gwirionedd, fel y byddem yn rhyw flaenffrwyth#1:18 Iuddewon oeddent y tröedigion cyntaf, hwynt oedd flaenffrwyth o’i greaduriaid newydd. Gwel Rhuf. 16:5; 1 Cor. 16:15. o’i grëaduriaid.
19Felly,#1:19 Gan i Dduw eich cenedlu fel yn flaenffrwyth o’i wir ewyllys. fy mrodyr anwyl, bydded pob dyn yn barod#1:19 Nid yw “esgud” yn ddealladwy yn y Deheudir; ac nid yw “diog” yn gymhwys. i wrando, yn hwyrfrydig i lefaru, yn hwyrfrydig i ddigofaint; 20canys digofaint gŵr, ni chyflawna gyfiawnder Duw.#1:20 Sef yr hyn sydd gyson ac uniawn gerbron Duw. 21Am hyny, gan roi heibio bob aflendid a gorlif drwganian,#1:21 “drwganian” yw awydd i wneuthur drwg neu niwed i eraill; a’i “orlif” yw digofaint yn tori allan, yr hyn ni weithreda gyfiawnder Duw. Attodiad DTuag at dderbyn y gair sydd i’w blanu oddimewn (nid ei impio), rhaid oedd rhoi heibio “bob aflendid,” bob peth a haloga’r enaid, a “gorlif drwganian,” neu “weddill drygioni,” os cymerwn y gair yn yr ystyr yr arferir ef ynddo gan y Deg a Thriugain. Arferir y perwyddiad y daw o hono yn yr ystyr hyn, Matth. 14:20 Cydwedda hyn â “phob aflendid,” gan y dynoda bob drygioni, y gweddill o’r hyn sydd ddrwg. “Gormodedd drygioni” — superlative of naughtiness — Saesoneg; “gorlif drwganian” — overflowing of malignity — Doddridge. Nid cywir yn ddïau yw gormodedd drygioni, na gorlif drwganian, oddieithr i ni gymeryd digofaint na chyflawna gyfiawnder Duw yn dynodi y gorlif hwn. Wrth “bob aflendid,” neu fudredd, glythineb, meddwdod, ac anlladrwydd, yn debygol a feddylir; a chynnwys “gorlif drwganian” y teimladau digofus a chenfigenus. Gwel pen. 3:16. mewn addfwynder derbyniwch y gair a blanir oddifewn, yr hwn a ddichon achub eich heneidiau. 22Byddwch hefyd yn wneuthurwyr y gair, ac nid yn wrandawyr yn unig, gan wag-dwyllo#1:22 Sef twyllo trwy wâg resymau, neu gau resymau. eich hunain. 23Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair heb fod yn wneuthurwr, tebyg yw efe i ŵr yn edrych ar ei wyneb naturiol #1:23 Yn llythyrenog, “wyneb ei enedigaeth,” geirwedd Hebrëaidd yn lle wyneb genedigol neu naturiol. mewn drych: 24canys edrychodd arno ei hun ac a aeth ymaith, ac yn y fan anghofiodd pa fath ydoedd. 25Ond yr hwn a ddyfal edrych ar ddeddf berffaith rhyddid,#1:25 Felly y geilw yr efengyl: “perffaith” o oherwydd ei chyflawnder, heb un gwall neu ddiffyg “rhyddid,” o herwydd rhyddhâ oddiwrth felldith y ddeddf foesol, oddiwrth lywodraeth pechod, ac oddiwrth golledigaeth. ac a barhâ felly,#1:25 Sef i edrych hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond yn wneuthurwr y gair, a fydd ddedwydd yn ei waith.
26Os tybia neb yn eich plith ei fod grefyddol, heb ffrwyno ei dafod, ond yn twyllo ei galon,#1:26 Trwy feddwl mai digon oedd gwrando heb wneuthur y gair. ofer yw crefydd hwnw. 27Crefydd bur a dihalog#1:27 “Bur,” lân, loew, heb ddu-fanau: “dihalog,” heb ei llychwino gan lygredd. ger bron Duw a’r Tad yw hon, ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a chadw ei hun yn ddifrychau oddiwrth y byd.#1:27 Arferion pechadurus a chwantau’r byd.
Dewis Presennol:
Iago 1: CJO
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Proffwydi ac Epistolau gan John Owen. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.