Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthaw 11

11
PENNOD XI.
Ioan yn anfon ei ddisgyblion at Christ, Tystiolaeth Christ am Ioan. Christ yn moliannu doethineb ei Dad am egluro yr efengyl i’r rhai gwirion.
1A Bu, pan orphenodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy. 2A pan glybu Ioan yn y carchar am weithredoedd Christ, efe a ddanfonodd atto ddau o’i ddisgyblion. 3Ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw yr hwn oedd i ddyfod, ai ydym ni i ddisgwyl am arall? 4A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch. 5Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, ar cloffion yn rhodio, a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhâu, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael pregethu newyddion da iddynt. 6A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi.
7¶ Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd dywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych am dano? ai corsen yn ysgwyd gan wŷnt? 8Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn wedi ei wisgo a dillad hardd? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad hardd ydynt mewn tai brenhinoedd. 9Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai prophwyd? ïe, meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd. 10Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifenwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barottoa dy ffordd o’th flaen. 11Yn wir meddaf i chwi, Ym mhlith plant gwragedd ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn yr lywodraeth nefoedd sydd fwy nag ef. 12Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio’r lywodraeth nefoedd, a threiswyr sy’n ei gertrechu hi. 13Canys yr holl brophwydi a’r gyfraith a brophwydasant hyd Ioan. 14Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod. 15Y neb sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.
16¶ Eithr i ba beth y cyffelybaf fi’r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadlefidd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion, 17Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch. 18Canys daeth Ioan heb na bwytta nac yfed; a dywedant, Y mae cythraul ynddo. 19Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn yfed; a dywedant, Wele, ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. Felly doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun. 20Yna y dechreuodd efe argyhoeddi y dinasoedd yn y rhai y gwnaethwyd y rhan fwyaf o’i wyrthiau ef, am nad edifarhasent. 21Gwae i di, Chorazin; gwae i di, Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasant er ys talm mewn sach a lludw. 22Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Tyrus a Sidon, yn nydd barn, nag i chwi. 23A thydi, Kapernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd y bedd: canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn parhau hyd heddyw. 24Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom, yn nydd y farn, nag i ti.
25¶ Yr amser hwnnw yr attebodd yr Iesu ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a’r deallus, a’u datguddio o honot i fabanoed. 26Bydded, O Dad; canys felly y rhyngodd bodd i ti. 27Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.
28¶ Deuwch attaf fi, bawb ag y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a’ch esmwythâf. 29Cymmerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphwysdra i’ch eneidiau. 30Canys fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd ysgafn.

Dewis Presennol:

Matthaw 11: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda