Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthaw 12

12
PENNOD XII.
Christ yn traethu am y sabbath, yn iachau y cythreulig, yn ceryddu yr anffyddlon, ac yn dangos pwy yw ei frawd, ai chwaer, a’i fam.
1YR amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd sabbath trwy’r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwytta. 2A phan welodd y Pharisai, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y sabbath. 3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gyd ag ef? 4Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Duw, ac y bwyttaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwytta, nac i’r rhai oedd gyd ag ef, ond yn unig i’r offeiriaid? 5Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y sabbathau yn y deml yn halogi’r sabbath, a’u bod yn ddifeius? 6Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma un mwy nâ’r deml. 7Ond pe gwybasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed. 8Canys y mae mab y dyn yn Arglwydd, ïe ar y sabbath. 9Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwy.
10¶ Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y sabbathau? fel y gallent achwyn arno. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn o honoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd sabbath, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? 12Pa faint gan hynny y mae dyn yn rhagori ar ddafad? Felly y mae’n rhydd i wneud yn iawn ar y sabbath. 13Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall. 14Yna yr aeth y Pharisai allan, ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 15A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno: a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll; 16Ac a orchymynodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd: 17Fel yn cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, 18Wele, fy mab, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn llawn foddlon; gosodaf fy yspryd arno, ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd. 19Nid ymryson efe, ac ni lefain; ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. 20Corsen ysig ni’s tyr, a llin yn mygu ni’s diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21Ac yn ei enw ef y gobeithia y Cenhedloedd. 22Yna y dycpwyd atto un cythreulig, dall a mud: ac efe a’i hiachaodd ef, fel y gwelodd ac y llefarodd y dall a mud. 23A’r holl dorfeydd a synnasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd? 24Eithr pan glybu y Pharïsai, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid. 25A’r Iesu, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob llywodraeth wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, a anghyfanneddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 26Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei lywodraeth ef? 27Ac os trwy Beelzebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn cael eu bwrw allan? am hynny y byddant hwy yn farnwŷr arnoch chwi. 28Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Yspryd Duw, yna y daeth lywodraeth Duw attoch. 29Neu, pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr-yspeilio ei ddodrefn ef, oddi eithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn? ac yna yr yspeilia efe ei dŷ ef. 30Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyd â mi, sydd yn gwasgaru. 31Am hynny y dywedaf wrthych chwi, Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Yspryd ni faddeuir i ddynion. 32A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni’s maddeuir iddo, nac yn hon, nac yn yr oes a ddaw. 33Naill ai gwnewch y pren yn deg, a’i ffrwyth yn deg; ai gwnewch y pren yn pwdr, a’i ffrwyth yn pwdr: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. 34Oh eppil gwiberod, pa fodd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau. 35Y dyn da, o drysor da y galon, a lefara bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a lefara bethau drwg. 36Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Pob gair segur a ddywedo dynion, cant rhoddi cyfrif am dano yn nydd barn. 37Canys wrth dy ymadrodd y’th gyfiawnhêir, neu wrth dy ymadrodd fe y’th gefir yn anghyfiawn. 38Yna yr attebodd rhai o’r ysgrifenyddion â’r Pharisai, gan ddywedyd, Athraw, ni a chwennychem weled arwydd gennyt. 39Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd, ni’s rhoddir iddi, ond arwydd y prophwyd Ionas. 40Canys fel y bu Ionas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yʼnghalon y ddaear. 41Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyd â’r genhedlaeth hon, ac a’i barniant hi; am iddynt hwy edifarhâu wrth argyhoeddiad Ionas: ac wele fwy nâ Ionas yma. 42Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â’r genhedlaeth hon, ac a’i barnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y âr i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy nâ Solomon yma. 43A phan el yr yspryd aflan allan o ddyn, efe a rodia ar hŷd leoedd sychion, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael. 44Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y daethum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo, a’i drwsio. 45Yna y mae efe yn myned, ac yn cymmeryd gyd ag ef ei hun saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun; hwy a ant i mewn, ac a gyfanneddant yno: ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth nâ’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon. 46Tra’r ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a’i frodyr oedd yn sefyll o’r tu allan, yn ceisio ymsiarad ag ef. 47A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymsiarad â thi. 48Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam? a phwy ydynt fy mrodyr? 49Ac efe a estynodd ei law tu ag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele, fy mam a’m brodyr. 50Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd, a’m chwaer, a’m mam.

Dewis Presennol:

Matthaw 12: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda