Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Matthaw 10

10
PENNOD X.
Christ yn anfon ac yn rhoddi gallu i’w ddeuddeg Apostol, ac yn ei cyssuro yn erbyn erlidiau.
1AC wedi galw ei ddeuddeg disgybl atto, efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysprydion aflan, i’w bwrw hwynt allan, ac i iachâu pob clefyd a phob afiechyd. 2Ac enwau’r deuddeg apostolion yw y rhai hyn: Y cyntaf, Simon yr hwn a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd; Iacob mab Zebedëus, ac Ioan ei frawd; 3Philip, a Bartholomai, Thomas, a Matthai, y publican; Iacob mab Alphëus, a Lebbëus, yr hwn a gyfenwid Thaddëus; 4Simon y Cananead, a Iudas Iscariot, yr hwn hefyd a’i traddododd ef. 5Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac nac ewch i mewn i ddinas y Samariaid. 6Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. 7Ac wrth fyned, cyhoeddwch, gan ddywedyd, Y mae’r lywodraeth nefol yn nesau. 8Iachêwch y cleifion, glanhêwch y rhai gwahan glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad. 9Paratowch nac aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau: 10Na sach i’r daith, na dwy wisg, nac esgidiau, na ffon, canys y mae’r gweithiwr yn deilwng o ei fwyd. 11Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. 12A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. 13Ac os bydd y tŷ yn deilwng, agosed eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd attoch. 14A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomorriaid yn nydd barn, nag i’r ddinas honno. 16Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yn mlith bleiddiaid; byddwch gan hynny yn gall fel y seirph, ac yn ddiniwed fel y colomennod. 17Ac ymogelwch rhag dynion: canys hwy a’ch rhoddant chwi i fynu i’r cynghor, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. 18A chwi a ddygir at lywiawdwŷr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19Eithr pan y’ch traddodant chwi, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. 20Canys nid chwychwi sy yn llefaru, ond yspryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. 21A brawd a rydd frawd i fynu i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fynu yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. 22A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. 23A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orphenwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn. 24Nid yw disgybl yn uwch nâ’i athraw, na gwas yn uwch nâ’i arglwydd. 25Digon i’r disgybl fod fel ei athraw, a’r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant bennaeth y tŷ yn Beelzebub, pa faint mwy ei dylwyth ef? 26Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegyd nid oes dim cuddiedig, a’r na’s datguddir; na dirgel, a’r na’s gwybyddir. 27Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn y glust, cyhoeddwch ar bennau y tai. 28Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corph, ac ni allant ladd yr enaid; eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddistrywio enaid a chorph yn y floeddgar dyffryn. 29Oni werthir dau aderyn y to am ffyrling? ac ni syrth un o honynt ar y ddaer heb eich Tad chwi. 30Ac y mae, ïe, holl wallt eich pen wedi eu cyfrif. 31Nac ofnwch gan hynny; chwi a delwch fwy nâ llawer o adar y to. 32Pwy bynnag gan hynny a’m cyffeso i y’ngŵydd dynion, minnau a’i cyffesaf yntau y’ngŵydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 33A phwy bynnag a’m gwado i y’ngŵydd dynion, minnau a’i gwadaf yntau y’ngwydd fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. 34Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangnefedd ar y tir: ni ddaethum i ddanfon tangnefedd, ond cleddyf. 35Canys mi a ddaethum i osod dyn i amrafaelio yn erbyn ei dad, a’r ferch yn erbyn ei mam, a’r waudd yn erbyn ei chwegr. 36A gelynion dyn fydd ei dylwyth ei hun. 37Yr hwn sydd yn caru tad neu fam yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honnof fi: a’r neb sydd yn caru mab neu ferch yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honnof fi. 38A’r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ac yn canlyn ar fy ol i, nid yw deilwng o honof fi. 39Y neb sydd yn cael ei einioes, a’i cyll: a’r neb a gollo ei einioes o’m plegyd i, a’i caiff hi.
40¶ Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i. 41Y neb sydd yn derbyn prophwyd yn enw prophwyd, a dderbyn wobr brophwyd; ar neb sydd yn derbyn un cyfiawn yn enw un cyfiawn, a dderbyn wobr un cyfiawn. 42A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn phiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr.

Dewis Presennol:

Matthaw 10: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda