Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 9

9
PENNOD IX.
Y dyn a anesid yn ddall, yn cael ei olwg; ai ddwyn ef at y Pharisai: hwythau yn ymrwystro, ac yn ei ysgymmuno ef; ac yntau yn cael ei dderbyn gan yr Iesu, ac yn ei gyffessu ef; Pwy yw y rhai y mae Christ yn eu goleuo.
1AC wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth. 2A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, pwy a bechodd, a’i hwn, ai ei rïeni, fel y genid ef yn ddall? 3Yr Iesu a attebodd, Nid hwn a bechodd, na’i rïeni: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. 4Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra yr ydyw hi yn ddydd: y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. 5Tra yr ydwyf yn y byd, myfi wyf goleuni y byd. 6Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar y llawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a irodd lygaid y dall, a’r clai; 7Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymôlch yn llyn yr Anfonedig. Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled. 8Y cymmydogion gan hynny, a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen, mai dall oedd, a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn eistedd ac yn cardotta? 9Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe. 10Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di? 11Yntau a attebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn yr Anfonedig ac ymôlch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg. 12Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni ŵn i. 13Hwythau a’i dygasant ef, yr hwn gynt a fuasai yn ddall at y Pharisai. 14A’r sabbath oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, ac agorodd ei lygaid ef. 15Am hynny y Pharisai hefyd a ofynnasant iddo, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, efe a osododd glai ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled. 16Yna rhai o’r Pharisai a ddywedasant, Nid yw y dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw y sabbath. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymranod yn eu plith. 17Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef, am iddo agor dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai prophwyd yw efe. 18Am hynny ni chredai yr Iudaion am dano ef, mai dall fuasai, a chael o hono ef ei olwg, nes galw o honynt rïeni yr hwn a gawsai ei olwg. 19A hwy a ofynnasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn awr yn gweled. 20Ei rïeni ef a attebasant iddynt, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac y ganwyd ef yn ddall: 21Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awrhon, ni’s gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, ni’s gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynwch iddo ef: efe a adrodda am dano ei hun. 22Hyn a ddywedodd ei rïeni, am eu bod yn ofni yr Iudaion: canys yr Iudaion a gyd-ordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Ghrist, y bwrid hwnnw allan o’r synagog. 23Am hynny y dywedodd ei rïeni, Y mae efe mewn oedran; gofynwch iddo. 24Yna hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro y gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw y dyn hwn. 25Yna yntau a attebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, ni’s gwn i: un peth a ŵn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled. 26Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di? 27Yntau a attebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch: paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef? 28Hwythau a’i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo; eithr ni ydym ddisgyblion Moses. 29Nyni a wyddom i Dduw lefaru wrth Moses: eithr ni’s gwyddom ni o ba le y mae hwn. 30Y dyn a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddïau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i. 31Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrandaw pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrandaw. 32Ni chlybuwyd eriôed i neb agor lygaid un a anesid yn ddall. 33Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim. 34Hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a’i bwriasant ef allan. 35A’r Iesu a glybu iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? 36Yntau a attebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo. 37A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi yw efe. 38Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i cyfarchodd ef. 39A’r Iesu a ddywedodd, I farn y daethum i’r byd hwn: fel y gwelai y rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai y rhai sydd yn gweled yn ddeillion. 40A rhai o’r Pharisai a oedd gyd ag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion? 41Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe fyddech ddeillion, ni fyddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.

Dewis Presennol:

Ioan 9: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda