Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 8

8
PENNOD VIII.
Christ yn gwaredu y wraig a ddaliesid mewn godineb: yn pregethu ei fod ef ei hun yn oleuni y byd: ac yn gwirio ei athrawiaeth: yn atteb yr Iudaion a wnaent eu bost o Abraham: ac yn gochelyd eu creulondeb.
1A’R Iesu a aeth i fynydd yr Olewŷdd, 2Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml; a’r holl bobl a ddaeth atto ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt. 3A’r ysgrifenyddion a’r Pharisai a ddygasant atto ef wraig yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol, 4Hwy a ddywedasant wrtho, Athraw, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. 5A Moses yn y gyfraith a orchymynodd i ni labyddio y cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd? 6A hyn a ddywedasant hwy, gan ei brofi ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymmu tu a’r llawr, a ysgrifenodd a’i fys ar y ddaear, heb gymmeryd arno eu clywed. 7Ond fel yr oeddynt hwy yn parhâu yn gofyn iddo, efe a ymuniawnodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd o honoch yn ddibechod, tafled yn gyntaf garreg atti hi. 8Ac wedi iddo eilwaith ymgrymmu tu a’r llawr, efe a ysgrifenodd ar y ddaear. 9Hwythau pan glywsant hyn, wedi eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechreu o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, ar wraig yn sefyll yn y canol. 10A’r Iesu wedi ymuniawnu, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwŷr di? oni farnodd neb di? 11Hithau a ddywedodd, Na ddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy farnu di: dos, ac na phecha mwyach. 12Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Myfi yw goleuni y byd: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni y bywyd. 13Am hynny y Pharisai a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu am danat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir. 14Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Er fy mod i yn tystiolaethu am danaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegyd mi a ŵn o ba le y daethum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau ni’s gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned. 15Chwi sydd yn barnu yn ol y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb. 16Ac etto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegyd nid wyf fi yn unig, ond myfi ar Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 17Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn. 18Myfi yw yr hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun; ac y mae y Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, yn tystiolaethu am danaf fi. 19Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a attebodd, Nid adwaenoch na myfi, n’am Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd. 20Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef etto. 21Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod. Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 22Am hynny y dywedodd yr Iudaion, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 23Ac efe a dywedodd wrthynt hwy, Chwi sydd oddi isod: minnau sydd oddi uchod: chwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn. 24Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegyd oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. 25Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad. 26Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd, ac i’w barnu am danoch chwi: eithr cywir yw yr hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd. 27Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt. 28Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim o honof fy hun; ond megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn. 29A’r hwn am hanfonodd i, sydd gyd â myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegyd yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd foddlon ganddo ef. 30Fel yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef. 31Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iudaion a gredasent ynddo, Os arhoswch chwi yn fy rheswm i, disgyblion i mi ydych yn wir; 32A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddhâ chwi. 33Hwythau a attebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb eriôed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? 34Yr Iesu a attebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod. 35Ac nid yw y gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth. 36Os y Mab gan hynny a’ch rhyddhâ chwi, rhyddion fyddwch yn wir. 37Mi a ŵn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy rheswm i yn genni ynoch chwi. 38Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyd â’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyd a’ch tad chwithau. 39Hwythau a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe fyddech plant Abraham, gweithredoedd Abraham a wnaech. 40Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham. 41Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy butteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw. 42Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pe byddai Duw eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y daethum; oblegyd nid o honof fy hun y daethum i, ond efe a’m hanfonodd i. 43Nid ydych yn deall fy lleferydd i, am na ellwch wrandaw fy rheswm i. 44O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegyd nid oes gwirionedd ynddo. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. 45Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. 46Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod? Ac os wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu imi? 47Y mae yr hwn sydd o Dduw yn gwrandaw geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrandaw, am nad ydych o Dduw. 48Yna yr attebodd yr Iudaion, ac y dywedasant wrtho ef, Onid iawn yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul? 49Yr Iesu a attebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nïanrhydeddu innau. 50Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn. 51Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd. 52Yna y dywedodd yr Iudaion wrtho, Yr awr hon y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a’r prophwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd. 53Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a’r prophwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun? 54Yr Iesu a attebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant yw ddim: fy Nhad yw yr hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw. 55Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn anwireddus: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrod ef. 56Eich tad Abraham a chwenychai weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd, ac a lawenychodd. 57Yna y dywedodd yr Iudaion wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain etto, ac a welaist ti Abraham? 58Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi. 59Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu atto ef. A’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt.

Dewis Presennol:

Ioan 8: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda