Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 19

19
PENNOD XIX.
Fflangellu Christ, a’i goroni â drain, a’i guro. Pilatus yn chwennych ei ollwng ef yn rhŷdd; etto wedi ei orchfygu gan lefain yr Iudaion, yn ei roddi ef i’w groes-hoelio. Bwrw coel-brennau ar ei ddillad ef: yntau yn gorchymyn ei fam i Ioan; ac yn marw. Gwanu ei ystlys ef. Ioseph a Nicodemus yn ei gladdu ef.
1YNA gan hynny y cymmerodd Pilatus yr Iesu, ac a’i fflangellodd ef. 2A’r milwŷr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben ef, ac a roisant wisg o borphor am dano; 3Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iudaion; ac a roisant iddo gernodiau. 4Pilatus gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr wyf fi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael ynddo ef un bai. 5Yna y daeth yr Iesu allan, yn dwyn y goron ddrain, a’r wisg borphor. A Philatus a ddywedodd wrthynt, Wele y dyn. 6A’r arch-offeiriaid a’r rhingyllion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia ef. Pilatus a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a chroes-hoeliwch: canys nid wyf fi yn cael dim bai ynddo. 7Yr Iudaion a attebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddylai farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw. 8A phan glybu Pilatus yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy; 9Ac a aeth drachefn i’r dadleudy, ac a ddywedodd wrth yr Iesu. O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu atteb iddo. 10Yna Pilatus a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthyf fi? oni wyddost ti fod gennyf awdurdod i’th groes-hoelio di, a bod gennyf awdurdod i’th ollwng yn rhŷdd? 11Yr Iesu a attebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod. 12O hynny allan y ceisiodd Pilatus ei ollwng ef yn rhŷdd: ond yr Iudaion a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhŷdd, nid wyt ti yn garedig i Kæsar. Pwy bynnag a wnelo ei hun yn frenin, sydd yn dywedyd yn erbyn Kæsar. 13Yna Pilatus, pan glybu yr ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu; ac a eisteddodd ar yr orsedd-faingc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha. 14A darpar wledd y pasg oedd hi, ac ynghŷlch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iudaion, Wele eich Brenin. 15Eithr hwy a lefasant, Ymaith ag ef, ymaith ag ef, croes-hoelia ef. Pilatus a ddywedodd wrthynt, A groes-hoeliaf fi eich Brenin chwi? A’r arch-offeiriaid a attebasant, Nid oes i ni frenin ond Kæsar. 16Yna gan hynny efe a’i traddodes ef iddynt i’w groes-hoelio. A hwy a gymmerasant yr Iesu, ac a’i dygasant ymaith. 17Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid Lle y ben-glog, ac a elwir yn Hebraeg, Golgotha: 18Lle y croes-hoeliasant ef, a dau eraill gyd ag ef, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol. 19A Philatus a ysgrifenodd ditl, ac a’i dododd ar y groes. A’r ysgrifen oedd, IESU O NAZARET, BRENIN YR IUDAION. 20Y titl hwn gan hynny a ddarllenodd llawer o’r Iudaion: oblegyd yn agos i’r ddinas oedd y fan lle y croes-hoeliwyd yr Iesu, ac yr oedd wedi ei ysgrifenu yn Hebraeg, Groëg, a Lladin. 21Yna arch-offeiriaid yr Iudaion a ddywedasant wrth Pilatus, Na ysgrifena, Brenin yr Iudaion; eithr dywedyd o hono ef, Brenin yr Iudaion ydwyf fi. 22Pilatus a attebodd, Yr hyn a ysgrifenais a ysgrifenais. 23Yna’r milŵyr, wedi iddynt groes-hoelio yr Iesu, a gymmerasant ei ddillad ef (ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran) a’i bais ef: a’i bais ef oedd ddi-wnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll. 24Hwythau a ddywedasant wrth eu gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goel-brennau am dani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr ysgrythyr sydd yn dywedyd, Rhannasant fy nillad yn eu mysg, ac am fy mhais y bwriasant goel-brennau. A’r milwyr a wnaethant y pethau hyn. 25Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Maria gwraig Cleophas, a Maria Magdalen. 26Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll ger llaw, a ddywedodd wrth ei fam, Wraig, wele dy fab. 27Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymmerodd y disgybl hi i’w gartref. 28Wedi hynny yr Iesu, yn gwybod fod pob peth wedi ei orphen weithian, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, a ddywedodd, Y mae syched arnaf. 29Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr; a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac a’i rhoddasant ynghŷlch gorsen, ac a’i dodasant wrth ei enau ef. 30Yna pan gymmerodd yr Iesu y finegr, efe a ddywedodd, Gorphenwyd: a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr yspryd. 31Yr Iudaion gan hynny, fel nad arhosai y cyrph ar y groes ar y sabbath, o herwydd ei bod yn ddarpar-wledd (canys mawr oedd y dydd sabbath hwnnw) a ddeisyfiasant ar Pilatus, gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr. 32Yna y milwŷr a ddaethant, ac a dorrasant esgeiriau y cyntaf, a’r llall, yr hwn a groes-hoeliasid gyd ag ef. 33Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisoes, ni thorrasant ei esgeiriau ef. 34Ond un o’r milwŷr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon; ac yn y fan daeth allan waed a dwfr. 35A’r hwn a’i gwelodd, a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwi. 36Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, Ni thorrir asgwrn o hono. 37A thrachefn, ysgrythyr arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant. 38Ac ar ol hyn, Ioseph o Arimathea (yr hwn oedd ddisgybl i’r Iesu, eithr yn guddiedig, rhag ofn yr Iudaion) a ddeisyfiodd ar Pilatus, gael tynnu i lawr gorph yr Iesu. A Philatus a ganiattaodd iddo. Yna y daeth efe ac a ddug ymaith gorph yr Iesu. 39A daeth Nicodemus hefyd (yr hwn ar y cyntaf a ddaethai at yr Iesu o hŷd nos) ac a ddug fyrr ac aloës ynghymmysg, tu a chan-pwys. 40Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llïeiniau, gyd ag aroglau, fel y mae arfer yr Iudaion ar gladdu. 41Ac yn y fangre lle y croes-hoeliasid ef, yr oedd gardd; a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dyn eriôed. 42Ac yno, rhag nesed oedd darpar wledd yr Iudaion, am fod y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.

Dewis Presennol:

Ioan 19: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda