Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 17

17
PENNOD XVII.
Christ yn gweddïo ar ei Dad am ei ogoneddu ef; am gadw ei apostolion, mewn undeb, a gwirionedd: am eu gogoneddu hwy, a’r holl ffyddloniaid eraill, gyd ag ef yn y nefoedd.
1Y PETHAU hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr: gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau: 2Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddai efe iddynt fywyd tragywyddol. 3A hyn yw y bywyd tragywyddol; iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a Iesu Ghrist, yr hwn a anfonaist. 4Mi a’th ogoneddais di ar y ddaear; mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i’w wneuthur. 5Ac yr awrhon, O Dad, gogonedda di fyfi gyd â thi dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyd â thi cyn bod y byd. 6Mi a eglurais dy enw i’r dynion a roddaist i mi allan o’r byd: eiddot ti oeddynt, a thi a’u rhoddaist i mi; a hwy a gadwasant dy air di. 7Yr awr hon y gwybuant mai oddi wrthyt ti y mae yr holl bethau a roddaist i mi. 8Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; a hwy a’u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y ddaethum i allan, ac a gredasant mai tydi a’m hanfonaist i. 9Drostynt hwy yr wyf fi yn gweddïo: nid dros y byd yr wyf yn gweddïo, ond dros y rhai a roddaist i mi; canys eiddot ti ydynt. 10A’r eiddof fi oll sydd eiddot ti, a’r eiddot ti sydd eiddof fi: a mi a ogoneddwyd ynddynt. 11Ac nid wyf mwyach yn y byd, ond y rhai hyn sydd yn y byd, a myfi sydd yn dyfod attat ti. Y Tad sanctaidd, cadw trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi; fel y byddont un, megis ninnau. 12Tra bum gyd a hwynt yn y byd, mi a’u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi a gedwais, ac ni chollwyd o honynt ond mab y golledigaeth; fel y cyflawnid yr ysgrythyr. 13Ac yr awrhon yr wyf yn dyfod attat: ar pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain. 14Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a’r byd a’u casaodd hwynt, oblegyd nad ydynt o’r byd, megis nad ydwyf finnau o’r byd. 15Nid wyf yn gweddïo ar i ti eu cymmeryd allan o’r byd, eithr ar i ti eu cadw rhag y drwg. 16O’r byd nid ydynt, megis nad wyf finnau o’r byd. 17Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd. 18Fel yr anfonaist fi i’r byd, felly yr anfonais innau hwythau i’r byd. 19Ac er eu mwyn yr wyf yn fy sancteiddio fy hun, fel y byddont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd. 20Ac nid wyf yn gweddïo dros y rhai hyn yn unig, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynof fi trwy eu hymadrodd: 21Fel y byddont oll yn un; megis yr wyt ti, y Tad, ynof fi, a minnau ynot ti; fel y byddont hwythau un ynom ni: fel y credo y byd mai tydi a’m hanfonaist i. 22A’r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy; fel y byddont un, megis yr ydym ni yn un: 23Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi; fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, ac fel y gwypo y byd mai tydi a’m hanfonaist i, a charu o honot hwynt, megis y ceraist fi. 24Y Tad, y rhai a roddaist i mi, yr wyf yn dymyno, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â myfi; fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi: oblegyd ti a’m ceraist cyn seiliad y byd. 25Y Tad cyfiawn, nid adnabu y byd dydi: eithr mi a’th adnabum, a’r rhai hyn a wybu mai tydi a’m hanfonaist i. 26Ac mi a hyspysais iddynt dy enw, ac a’i hyspysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad â’r hwn y ceraist fi, a minnau ynddynt hwy.

Dewis Presennol:

Ioan 17: JJCN

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda