Lyfr y Psalmau 35
35
1O dadleu Di, O Dduw, fy nadl
Yn erbyn dadl y gelyn,
Ac ymladd â’th alluog law
A phawb a ddaw i’m herbyn.
2Yr astalch gref a’r darian dwg
I’r maes rhag gwg y gelyn;
A chyfod, Arglwydd, (gwel fy ngham,)
I’m cymmorth a’m hamddiffyn.
3Ymafael yn y wayw‐ffon
A chau ar bawb fo ’n f’ erlid,
A dywed wrth fy enaid gwyw,
“Myfi yw Duw dy iechyd.”
5Byddant fel us o flaen y gwynt,
Ffoant yn gynt na hwnnw;
Ac Angel Duw yn chwyrn ei fryd
I’w herlid hyd eu marw.
6Bydded eu ffordd yn dywyll nos,
Boed mynych ffos i’w maglu;
Ac Angel Duw yn chwyrn ei fryd
I’w hymlid hyd eu trengu.
7I ddal fy nhraed eu dirgel rwyd
A guddiwyd heb achosion,
Mewn ffos a gloddiwyd, heb un rhaid,
I faglu f’ enaid gwirion.
8O deued arno ddistryw chwim
Na’s gwypo ddim am dano;
I’w ddistryw cwymped fy nghas ddyn,
A’i rwyd ei hun a’i dalio.
9A llawen iawn fydd f’ yspryd i
Yn Nuw fy Rhi a’m Llywydd;
Yngras a iachawdwriaeth Naf
Yr ymhyfrydaf beunydd.
YR AIL RAN
10Fy holl esgyrn a ddywedant,
Pwy sydd, Arglwydd, fel Tydi,
Yn gwaredu ’r tlawd a’r eiddil
Rhag ei drech, pan godo ’i gri?
Ti sy ’n achub y truenus,
Ti sy ’n codi ’r tlawd o’r llwch,
Ti sy ’n cadw ’r gwan a’r gwirion
Rhag sarhâd y ’speilydd trwch.
11Tystion gau sy ’n fy nghyhuddo
O’r peth na ’s gwn oddi wrtho ddim:
12Ac er mwyn yspeilio f’ enaid
Drwg dros dda talasant im’:
13Mewn sachlïain mi ymprydiwn
Pan glafychent hwy bob un;
Ond fe ddaeth fy ngweddi drostynt
Yn ol i’m mynwes i fy hun.
14Dwys y rhodiais, pan glafychodd,
Fel dros frawd neu gyfaill cu;
Fel pe dros fy mam fy hunan
Gwyrai ’m pen mewn galar du:
15Llonnent hwy er hyn, pan gloffwn,
Doent i’m herbyn oll yn haid;
Deuai hyd yn nod efryddion,
Ac a’m rhwygent yn ddi‐baid.
16Gyd â llu ’r gwatwarwŷr gwawdus
A ragrithient yn y wledd,
Ysgyrnygent ddannedd arnaf,
Trwch oedd trem eu llidiog wedd. —
17Oh pa hyd ar hyn y sylwi?
Gwared f’ enaid, ar fy nghais;
Gwared f’ enaid rhag y llewod,
F’ unig enaid rhag eu trais.
Y DRYDEDD RAN
18Dy foli ’n uchel, Arglwydd Naf,
Yn y gymmanfa fawr a wnaf;
Clodforaf d’ Enw mawr o hyd
Ym mhlith galluog bobl y byd.
19Na lawenhâed o’m plegid ddim
Y sawl ar gam sy ’n elyn im’;
Amneidio ’n wawdus mwy na wnant
Y rhai heb achos a’m casânt:
20Gan mai nid geiriau hedd na gras,
Ond cynnen, sy ar eu tafod cas;
Dych’mygant eiriau dirgel frad
Yn erbyn llonydd bobl y wlad.
21A safnau rhwth dywedant, “Ha!
Gwelodd ein llygaid hyn, Ha! ha!”
22Gwelaist hyn oll, fy Nuw, na thaw,
Fy Arglwydd Ior, ac na saf draw.
23Cyfod yn fore, f’ Arglwydd Rhi,
I’m dadl am barn, Duw, deffro Di;
24Yn uniawn barn fi yn dy ras
Rhag llawenhâu fy ngelyn cas.
25O na ddywedant mewn bost fawr,
“Ein gwynfyd cawsom arno ’n awr!”
O na ddywedant, Arglwydd nef,
“Daliasom a llyngcasom ef.”
26Gwarthrudd a gaffont hwy i gyd,
Sy lawen am f’ adfydus fyd;
Gwisger hwy oll â gwarth a sen,
Sy ’n chwyddo ’n falch goruwch fy mhen.
27Y rhai sy ’n hoffi ’m cyfiawn hawl,
Canant yn llawen a di‐dawl;
“Mawryger Duw,” dywedant fyth,
“Mae ’n caru llwydd ei was di‐lyth.”
28Fy nhafod, Arglwydd, byth a gân
Ogoniant dy gyfiawnder glân;
Fy llawen lais yn datgan sydd
Dy glod a’th fawl ar hyd y dydd.
Dewis Presennol:
Lyfr y Psalmau 35: SC1850
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.