Lyfr y Psalmau 33
33
1Ymlawenhewch, rai cyfiawn glân,
Yn Nuw, â chân soniarus;
I’r cyfiawn galon ac i’r sawl
Fo ’n uniawn, mawl sy’ n weddus.
2Yr Arglwydd Dduw a’i ras fel hyn
Ar dannau ’r delyn molwch;
I foli Duw, y nabl yn glau
A deg o dannau dygwch.
3O cenwch fawl i’r Arglwydd Dad
Mewn newydd ganiad llafar;
Datgenwch iddo foliant llawn,
Soniarus iawn a cherddgar.
4Dywedwch am yr Arglwydd Dduw,
Mai uniawn yw ei eiriau;
A holl weithredoedd rhyfedd Ner
Sy lawn ffyddlonder hwythau.
5Mae ’r Arglwydd Ion yn hoffi barn,
Uniondeb cadarn ffyddlawn;
Ac o’i drugaredd Ef yn awr
Mae daear lawr yn gyflawn.
YR AIL RAN
6Galluog air gwefusau ’r Ior
Fu gynt yn llunio ’r nefoedd;
A thrwy ei Yspryd Ef a’i nerth
Y gwnaed eu prydferth luoedd.
7Mae ’n casglu dwfr y môr ynghyd
O gylch y byd yn bentwr;
Ac mewn trysorau ceidw i lawr
Y dyfnder mawr ei gynnwr’.
8Y ddaear oll, y tir a’r môr,
O flaen yr Ior ymgrymmant;
Y byd a phawb sydd ynddo ’n byw,
Yr Arglwydd Dduw arswydant.
9“Bydded,” medd Duw — ac felly fu,
A hwythau ’n llu a grewyd;
Pan orchymynodd Duw y gwaith,
Y bydoedd maith a luniwyd.
Y DRYDEDD RAN
10Yn gwbl a llwyr diddymma ’r Ion
Gynghorion y cenhedloedd;
Ac â’i ddoethineb rhwystra ’n glau
Fwriadau cyfrwys pobloedd.
11Cyngor ein Harglwydd Dduw di‐lyth
A saif dros byth trwy ’r oesoedd;
Fe saif ei holl amcanion Ef
Tra safo nef y nefoedd.
12Y genedl y bo ’i Duw yn Dduw,
Mor ddedwydd ydyw honno!
Ei ddewis bobl, y rhai a wnaeth
Yn etifeddiaeth iddo!
Y BEDWAREDD RAN
13Edrychodd Duw o’r nef i lawr,
A’r ddaear fawr a welodd;
Ar feibion dynion îs y nef
Ei lygaid Ef a graffodd.
14O’i nefol drigfa gwel bob awr
Y ddaear lawr a’i phobloedd;
15Cyd‐luniodd eu calonnau oll,
A gŵyr eu holl weithredoedd.
16Ni chedwir brenhin gan ei lu
Rhag angau du na phoenau;
Ni ddïangc chwaith y grymmus gawr
Trwy gryfder mawr ei freichiau.
17Ofer yw march yn nydd y gad
I roi llesâd na nodded;
Nid achub hwnnw, er mor gryf,
Mo ’i farchog hyf rhag niwed.
Y BUMMED RAN
18Dros bawb sy ’n ofni ’r Arglwydd Ner,
Gan roi eu hyder arno,
Mae llygaid ei drugaredd Ef
O entrych nef yn gwylio.
19Rhag angau ceidw ’n henaid cu,
Rhag angau du fe ’n gwared;
20Disgwyliwn wrth ein Harglwydd Dduw,
Ein cymmorth yw a’n bwcled.
21Yn Nuw o’n calon llawenhâwn,
Gorfoledd llawn sy ’n eiddom;
Mae ’n gobaith yn ei Enw gwir,
Byth, byth ni siommir mo’nom.
22O Dduw, dy gariad pur di‐lyth
Poed arnom byth yn nodded,
Megis mai arnat mae ’n bryd oll,
Ein serch a’n holl ymddiried.
Dewis Presennol:
Lyfr y Psalmau 33: SC1850
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.