Lyfr y Psalmau 32
32
1O gwyn ei fyd yr enaid
Ga’dd guddio ’i bechod cas,
A’r hwn y llwyr faddeuwyd
Ei drosedd drwy rad ras:
2Gwyn fyd y dyn ni chyfrif
Yr Arglwydd iddo ’i waith,
Ac ni bo twyll na dichell
O fewn ei yspryd chwaith.
3Tra tewais, heb gyffesu
F’ anwiredd wrth fy Nuw,
Heneiddiodd f’ esgyrn ynof
Trwy’m hochain am fy mriw;
4Rhag trymmed llaw dy gerydd
’Rwy’ ddydd a nos yn glaf,
A chan fy mhoen, fy irder
A drow’d yn sychder haf.
5Fy meiau a gyffesais,
Ni chelais rhagot ddim;
Dywedais yr addefwn
Y cwbl, er chwerwed im’:
Edrychaist Tithau arnaf,
Tosturiaist yn dy ras,
A llwyr faddeuaist, Arglwydd,
Ddrygioni ’m pechod cas.
6Am hyn y taer weddïa
Pob duwiol arnat Ti,
Tra paro ’r dydd i’th gaffael
A’r nef yn gwrando ’i gri;
Ond os y chwyrn lifeiriant
A’n deil cyn codi ’n llef,
Byth, byth ni chawn ein gwrando
Na nesu atto Ef.
YR AIL RAN
7Ti ydwyt im’ yn lloches glyd,
Rhag ing y’m cedwi Di;
Ac â chaniadau rhyddid pur
Yr amgylchyni fi. —
8Addysgaf eiddil gamrau ’th draed
I rodio llwybrau ffydd;
Fy llygad i’th gynghori ’n iawn
Fydd arnat nos a dydd.
9Na fyddwch chwi fel march neu ful,
Heb bwyll na deall clau;
Rhaid attal hwn, trwy ffrwyno ’i ên,
Rhag attat ei nesâu.
10Gofidiau dwys a phoenau fyrdd
Fydd rhan y didduw cas;
Ond pawb a gredont yn eu Duw,
Cylchynir hwynt â gras.
11Poed hyfryd fyddoch yn eich Duw,
Chwi ’r cyfiawn calon lân;
Poed uchel fyddo ’ch clod a’ch mawl,
Poed llafar fyddo ’ch cân.
Dewis Presennol:
Lyfr y Psalmau 32: SC1850
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.