Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lyfr y Psalmau 28

28
1At Dduw fy Nghraig fy llef a ddaw;
O na fydd ddistaw, Arglwydd Naf!
Os taw dy lais wrth f’ enaid gwan,
I’r pwll yn fuan disgyn wnaf.
2Erglyw fy llef yn ymbil, Ner,
Pan waeddwyf o’m cyfyngder du;
Pan ddyrchwyf ddwylaw pur o bell
At Drugareddfa ’th Gafell gu.
3Na thyn fi gyd â didduw wŷr,
Na chyd â gweithwŷr drwg di‐ras,
A draethant â’u geneuau ’n fwyn,
Ac yn eu calon wenwyn cas.
4Tâl iddynt am eu gweithred, Ion,
Yn ol eu drwg ddych’mygion mwy;
Yn ol eu gweithred poed eu rhan,
A’u hamcan taler iddynt hwy.
5Nid ystyr neb o honynt oll
Dy gywrain law na ’th ddigoll waith;
Chwâl Dithau hwynt i lawr, fy Ner,
A byth na choder mo’nynt chwaith.
YR AIL RAN
6Bendigaid fyth fo Arglwydd nef,
Gwrandawodd Ef fy llef o’r llwch;
7Bu ’n darian nerthol, ar fy nghais,
I mi rhag trais fy ngelyn trwch.
Hyderodd f’ enaid yn Nuw Ion,
A gwnaed fy nghalon wan yn gref;
Am hynny ynddo llawenhâf,
Ac ar fy nghân clodforaf Ef.
8Ein Duw i’r cyfryw rai sy borth,
Ei nerth yn gymmorth sydd i’r gwan;
A nerth ei iechyd nos a dydd
I’w was Enneiniog rhydd yn rhan.
9O cadw ’r bobl a’r teulu tau,
Tydi a’u pïau, Arglwydd Ner;
Portha hwy fyth â gras y nen,
A dyrcha ’u pen yn uwch na ’r ser.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda