Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 6

6
Salm VI.
I’r Pencerdd ar y tanau — ar yr wythfed#6:0 ar yr wythfed; “nis gwn,” medd Calvin, “pa un ai’r delyn wyth dant a nodir ai peidio.” Ef allai mai dynodiad y dôn ydyw. Am beth mor dywyll ac mor ychydig o bwys, nid oes achos ymofyn. Dyma’r gyntaf o Salmau yr edifeiriol.: Cerdd o eiddo Dafydd.
1 Iehova, yn dy ddig na cherydda fi,
Ac yn dy lid#6:1 yn dy lid, gair yn dangos mwy o anfoddlonrwydd na dig; poethder yw ei wreiddiol ystyr. Mae cospi hefyd yn arwach peth na cheryddu. na chospa fi.
2Bydd raslawn wrthyf, Iehova, canys llesg iawn wyf;
Iacha fi, Iehova, canys dychrynwyd fy esgyrn;
3Ië, dychrynwyd fy enaid yn ddirfawr:
A thi, Iehova, pa hyd#6:3 Pa hyd?ymadrodd heb ei orphen. Pa hyd y ceryddi ac y cospi fi? neu, pa hyd y dychrynir fy enaid? neu, pa hyd y gohiri dy drugaredd?? —
4Dychwel#6:4 Dychwel: yr oedd Duw wedi ymadael oddi wrtho. , Iehova, rhyddha#6:4 rhyddha, dattod, gollwng yn rhydd. Yr oedd ei enaid megys mewn cadwyni. fy enaid;
Achub fi er mwyn dy drugaredd:
5Canys nid oes yn angeu gôf am danat;
Yn y bedd, pwy a’th glodfora?#6:5 “Pe torasai Duw ef i lawr, darfuasai iddo bob cyfleusdra i ogoneddu Duw ar y ddaear; ac os colledig fuasai, ni fuasai iddo gofio Duw mwy byth er rhoddi mawl a diolch iddo.” — Scott.
6Diffygiais gan fy ochain,
Nofiaf#6:6 Nofiaf; “gwnaf yn foddfa,” nid yw gywir. Nofio, nid boddi, a wnai. LXX. λουσω, golchaf, neu trochaf. Nofiai yn ei wely fel mewn golchfa, neu gwnai ei wely yn nofiadle trwy ddagrau. bob nos fy ngwely,
Erchwyn fy ngwely a wlychaf#6:6 gwlychaihefyd hyd yn nod erchwyn ei wely, neu, ei ddodrefn. LXX, οτρωμνην, gwrthban. â’m dagrau.
7Treuliodd gan gyffro#6:7 gyffro, neu y cynnwrf, neu yr edlid a’r edliw a barai ei ormeswyr iddo. fy llygad,
Suddodd#6:7 Suddodd; symud o’i le, yw ei ystyr wreiddiol. Gwna’r llygaid mewn mawr flinder soddi yn y pen. o herwydd fy ngorthrymwyr.
8Ciliwch#6:8 Ciliwch; yr oeddent megys o’i amgylch, yn ei ddychrynu, yn ei gyffroi ac yn ei edlidio. oddi wrthyf holl weithredwyr drygioni#6:8 drygioni, peth drwg niweidiol. Llafur, neu ofid, yw ei ystyr flaenaf; yna yr hyn a bar lafur nen ofid, sef drygioni. Par ddrygioni ofid i ddyn a’i gwnelo, ac i ereill hefyd.:
Canys clywodd Iehova lef fy wylofain,
9Clywodd Iehova fy erfyniad;
Iehova a dderbyn fy ngweddi.
10Gwaradwyddir a mawr ddychrynir fy holl elynion;
Dymchwelir, gwaradwyddir hwynt yn ddisymmwth.

Dewis Presennol:

Salmau 6: TEGID

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda