Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 5

5
Salm V.
I’r Pencerdd ar y pibyddion,#5:0 ar y pibyddion,neu, ar y pibau, offerynau cerdd o’r fath ag y chwyther ynddynt, yn wahanol oddi wrth y rhai a thannau iddynt. Salm 4:1. cerdd o eiddo Dafydd,
1Fy ngeiriau clyw, Iehova;
Deall#5:1 Deall, amgyffred, ystyria; gwahaniaethu yw ei ystyr, sef rhwng da a drwg. Nid ei eiriau yn unig a gais gan Dduw i sylwi, ond hefyd ei fyfyrdod, sef agwedd, tuedd, ac ewyllys ei galon. Gall y genau a’r galon anghytuno hyd yn oed mewn gweddi; ond nid oedd felly gyda Dafydd. fy myfyrdod:
2Erglyw lef fy ngwaedd, fy Mrenin a’m Duw;
Canys arnat yr erfyniaf.
3 Iehova; yn y bore y clywi fy llef;
Yn y bore y trefnaf#5:3 trefnaf, cyfieithir y gair, gosod mewn trefn, yn Gen. 22:9. — trefna yn Exod. 27:21. Yr oedd yn disgwyl ymweliad oddiwrth Dduw, a gwnai megys drefnu ei dŷ i’w dderbyn. erddot, ac y gwyliaf#5:3 gwyliaf, felly y cyfieithir y gair yn 2 Sam. 13:34, a 18:24, &c. Nid trefnu yn unig a wnae, ond gwylio ei ddyfodiad. fel y gwneir pan ddisgwylir ymwelwyr goruchel.:
4Canys nid Duw yn hoffi annuwioldeb#5:4 annuwioldeb. Yr un gair yw ag a gyfieithir annuwiolion yn Salm 1:1. Annuwioldeb yw byw diweddi. Mae’r adnod, a’r ddwy sy’n canlyn mewn gwrthwyneb i’r drydedd. Yr oedd Dafydd yn gweddio — yn trefnu’r tŷ oddi mewn — yn gwylio, nid yn byw yn annuwiol — nid yn coleddu drygioni — nid yn gwneuthur gamwedd — nid yn traethu celwydd. “wyt” ti;
Nid annedda gyda thi ddrygioni#5:4 drygioni, gwaith niweidiol a dinystriol: neu gellir ei gyfieithu, y drwg, neu, y drygionus, sef, y dyn ag y byddo drygioni yn llywodraethu ynddo..
5Ni saif ymffrostwyr#5:5 ymffrostwyr, gorhydrwyr, dynion ffrostus a rhodresgar. Gwel Salm 10:3. o flaen dy lygaid;
Caseaist holl weithredwyr camwedd.
6Difethi draethwyr celwydd;
Y gwr gwaedlyd a thwyllodrus a ffieiddia Iehova.
7Ond myfi trwy amlder dy drugaredd a ddeuaf i’th dŷ;
Ymgrymaf tu a’th deml sanctaidd yn dy ofn.
8 Iehova, arwain fi yn dy gyfiawnder#5:8 yn dy gyfiawnder, sef ar byd ffordd cyfiawnder. ;
O herwydd y rhai a’m gwyliant,#5:8 rhai a’m gwyliant,fy ngwylwyr, meos observatores, Jun. a Threm, Ystyr y gair yw, edrych, golygu, llygadu. Dynoda y cyfryw dynion ag a fyddont yn llygadu eu hyspail gan wylio am amser cyfaddas, bradwyr.
Uniona o’m blaen dy ffordd.
9Canys nid “oes” yn eu genau gywirdeb#5:9 gywirdeb, sef o ran y gwir, ffyddlondeb, LXX. αληθεια gwirionedd.;
Eu ceudod “sy” ’n drawsedd, bedd agored “yw” eu ceg;
A’u tafod y gwenieithiant.
10Euogfarna#5:10 Euogfarna, bwrw hwynt yn euog, trin hwynt fel y cyfryw. LXX, κρινον, barna hwynt. Jun. a Threm. Reos fac, gwna neu cyfrif hwynt yn euog. hwynt, O Dduw,
Syrthiant oddiwrth eu cynghorion;
Am amlder eu troseddau#5:10 troseddau; arwydda y gair, myned dros derfynau gosodedig, sef terfynau cyfraith Duw. gỳr hwynt ymaith;
Canys gwrthryfelasant yn dy erbyn.
11Ond llawenhaed pawb a ymddiriedant ynot;
Dros byth y llawenychant#5:11 llawenychant, bloeddiant; arwydda y fath hyfrydwch ag a baro i un lamu o lawenydd. gan y gorchuddi drostynt;
Ië, gorfoledded ynot y rhai a garant dy enw:
12Canys ti, Iehova, a fendithi’r#5:12 a fendithi; Duw yn bendithio, yw rhoddi bendith, cyfranu’r hyn a fyddo er lles a budd tymhorol neu ysprydol. Bendithio Duw yw cyfaddef ei fawredd a’i ddaioni, a rhoddi diolch a mawl iddo. cyfiawn; Caredigrwydd#5:12 Caredigrwydd; cyfieithir ef hawddgarwch, boddlonrwydd, ewyllys da. Deut. 33:23; Sal. 30:5; Diar. 14:35., fel tarian, a’i hamgylcha#5:12 hamgylcha; felly yn 1 Sam. 23:26. Dyma ragorfraint y cyfiawn, mae caredigrwydd, neu ewyllys da, neu rad ddaioni Duw, yn ei amgylchu fel tarian..

Dewis Presennol:

Salmau 5: TEGID

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda