Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Amos 2

2
1Fel hyn y dywed Iafe,
“Am dri o droseddau Moab, ac am bedwar,
Ni throf hyn yn ol,
Am losgi ohono’n galch
Esgyrn brenin Edom;
2Ond gyrraf dân drwy Foab,
Ac fe ŷs gestyll Cerioth;
A bydd farw Moab mewn dadwrdd,
Mewn cadfloedd, mewn sain utgorn,
3A thorraf ymaith farnwr o’i chanol,
A lladdaf ei holl dywysogion hi gydag ef.”
Medd Iafe.
4Fel hyn y dywed Iafe,
“Am dri o droseddau Iwda, ac am bedwar,
Ni throf hyn yn ol,
Am ddirmygu ohonynt gyfarwyddyd Iafe,
Ac na chadwasant ei ddeddfau,
Canys parodd eu celwyddau iddynt gyfeiliorni,
Y rhai yr aeth eu tadau ar eu hol;
5Ond gyrraf dân drwy Iwda,
Ac fe ŷs gestyll Ierwsalem.”
6Fel hyn y dywed Iafe,
“Am dri o droseddau Israel, ac am bedwar,
Ni throf hyn yn ol,
Am werthu ohonynt y cyfiawn am arian,
A’r tlawd am bâr o sandalau;
7Hwy y sy’n mathru i lwch y ddaear ben y gweiniaid,
Ac yn gŵyro ffordd y gwasgedig;
Ac â gŵr a’i dad at lances,
I halogi fy enw sanctaidd;
8Ac ar ddillad gwystl y gorweddant ger pob allor,
A gwin dirwyedigion a yfant yn nhŷ eu Duw.”
9“Dilëais innau o’ch#2:9 Rhai Llawysgrifau; eraill o’u blaen yr Amoriad
Oedd a’i daldra fel taldra cedrwydd,
Ac yntau’n gryf fel derw,
A dilëais ei ffrwyth oddi arnodd,
A’i wraidd oddi tanodd.
10Dygais chwi hefyd o wlad yr Aifft,
Ac arweiniais chwi drwy’r anialwch ddeugain mlynedd,
I feddiannu gwlad yr Amoriad;
11A chyfodais o’ch meibion broffwydi,
Ac o’ch gwŷr ifainc Nasireaid.
Onid felly y mae, Feibion Israel?”
Medd Iafe.
12“A diodasoch y Nasireaid â gwin,
A gorchmynasoch i’r proffwydi: ‘Na phroffwydwch.’
13Wele fi’n peri ysgwyd tanoch,
Fel yr ysgwyd y fen lwythog o ysgubau;
14A difëir noddfa’r cyflym,
A’r cryf ni ddeil yn ei nerth,
A’r cadarn nid achub ei einioes,
15A’r saethwr bwa ni saif,
A’r cyflym ei draed nis achubir,
A’r gŵr march nid achub ei einioes,
16A ffy’r dewrgalon ymhlith y cedyrn
Yn noeth y dydd hwnnw.”
Medd Iafe.

Dewis Presennol:

Amos 2: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda